i

Film

BAFTA Guru 2025

Nodweddion

Mer 2 Ebrill

4pm - Darllen Sgriptiau ac Adrodd
Sesiwn mewn partneriaeth ag NFTS Cymru.
Yn aml, darllen sgriptiau ac adrodd amdanyn nhw yw un o’r camau cyntaf i gamu i mewn i’r diwydiant drama deledu neu ffilm. Yn y sesiwn awr o hyd yma, bydd Zina’n cyffwrdd â hanfodion y rôl, sut i nabod potensial sgript dda, ac yn rhannu sut orau i sefyll allan yn y diwydiant. Bydd cyfle am sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.
Booking link - https://tr.ee/DkhqfaMuHT

5.30pm - Bariau C2 (Ffrwd Fyw)
Archwiliwch fyd y ddrama garchar, Bariau, wrth i ni edrych yn fanylach ar yr ail gyfres a sgwrsio gyda chrewyr y gyfres lwyddiannus yma.
Booking link - https://tr.ee/FuP9_u7h_Y

7pm - Creu Wallace & Gromit: Vengeance Most Fowl
Dewch i glywed gan aelodau o’r tîm dawnus tu ôl i’r ffilm Wallace a Gromit ddiweddaraf sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA, Vengeance Most Fowl, a dysgu am yr elfennau allweddol sy’n helpu i ddod â’r animeiddiad stop-symud eiconig yma’n fyw.
Booking link - https://tr.ee/bkcp_AzpdN

___

Thu 3 Apr

2.30pm - Darlledu Byw, Digwyddiadau a Chwaraeon
Sesiwn wedi’i chefnogi gan S4C.
Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar fyd Darlledu Byw ac archwilio’r swyddi sydd ar gael, y sgiliau sydd eu hangen, a’r straeon tu ôl i gyflwyno digwyddiadau byw i gynulleidfa deledu.
Booking Link - https://tr.ee/i6LaPHCUpq

4pm - Ffilm Nodwedd Gyntaf
Eisiau creu ffilm nodwedd, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Ymunwch â’n sesiwn ni i glywed cyngor ar ddechrau arni.
Booking link - https://tr.ee/yxMGpLEhka

4pm - Celfyddyd Rhwydweithio gyda Bulldozer Films
Sesiwn wedi’i chefnogi gan Ystâd y Goron.
Mae rhwydweithio’n declyn gwerthfawr ar gyfer twf proffesiynol, ond mae’n gallu bod yn frawychus!
Booking link - https://tr.ee/fIir0gL6OI

5.30pm - Gemau: Buddsoddi a Chyflwyno Syniadau
Sesiwn mewn partneriaeth â Cymru Greadigol.
Hoffech chi wella eich gwybodaeth buddsoddi a sgiliau cyflwyno syniadau? Bydd y sesiwn awr o hyd yma’n eich tywys drwy gyngor arbenigol ar sut i gyflwyno’ch gêm yn effeithiol ac yn rhoi cyngor gwerthfawr ar ddenu buddsoddiad.
Booking link - https://tr.ee/vHfyiNgFt3

8pm - Parti Cloi
Ymunwch â ni ar ôl y sesiwn olaf am ddiod a danteithion i gloi'r diwrnod.
Booking link - https://tr.ee/aqjkEx6Anm

Mae ein rhaglen Cynnal yn Chapter yn cael ei chyflwyno gan ein cymdeithion creadigol a’r gymuned leol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi lle yn Chapter ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r tîm Llogi.

Share