i

Film

Away (U) + ffilm fer The Lab

U
  • 2019
  • 1h 15m
  • Latvia

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Gints Zilbalodis
  • Tarddiad Latvia
  • Blwyddyn 2019
  • Hyd 1h 15m
  • Tystysgrif U
  • Math Film

Mae bachgen yn teithio ar draws ynys ar feic modur gydag aderyn bach, yn ceisio dianc oddi wrth ysbryd tywyll a dychwelyd adre. Ar y daith, mae'n ffurfio cyfres o gysylltiadau gyda gwahanol anifeiliaid, ac yn meddwl am y ffyrdd posib y cyrhaeddodd yr ynys. Yn rhannol freuddwyd ac yn rhannol realiti, cafodd y ffilm ddi-ddeialog hardd yma, sydd wedi ennill sawl gwobr, ei chreu dros dair blynedd gan Gints Zilbalodis, cyn iddo fynd ymlaen i ennill gwobr Oscar ar gyfer Flow.

+

The Lab

Mae gwyddonydd ecsentrig yn gweithio ar ei chreadigaeth ddiweddaraf. Cafodd y ffilm yma ei chreu fel prosiect blwyddyn olaf tîm o fyfyrwyr benywaidd BA (Anrh.) Celf a Dylunio Animeiddio Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Bournemouth. Fe’i datblygwyd o dan y Ganolfan Genedlaethol fawreddog ar gyfer Animeiddio Cyfrifiadurol (NCCA), ac mae’r ffilm fer animeiddiedig yn cyfleu arbenigedd animeiddio, dylunio, ac adrodd straeon y tîm. Ar ôl ennill sawl gwobr mewn gŵyl, mae The Lab yn dangos eu hymroddiad i arloesedd, creadigrwydd, a chydweithio ym maes animeiddio cyfrifiadurol.

Share