Art

Taith Sain Ddisgrifiad: Naomi Rincón Gallardo

  • 2h 0m

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m

8 Ionawr 2024

10:30am - 12:30pm

Nifer gyfyngedig o leoedd, rhad ac am ddim.

Ymunwch â Radha Patel, cynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi 10, ar gyfer taith sain ddisgrifiad arbennig o amgylch arddangosfa gelf Naomi Rincón Gallardo. Mae’r arddangosfa’n rhan o Artes Mundi 10, sef prif arddangosfa celfyddyd gyfoes ryngwladol y DU a gynhelir bob dwy flynedd.

Bydd y daith hon, sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, yn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer yr Artist, ac yn darparu delwedd feddyliol bwerus a fydd yn goleuo’r gwaith a’r syniadau sydd wedi’u cynnwys.

Mae croeso i gŵn tywys. Rydym yn eich cynghori i ddod â chyfaill neu rywun sy’n gallu gweld gyda chi. Bydd gennym nifer cyfyngedig o staff ar gael i helpu ar y diwrnod.

Cynhelir y daith ar lawr gwaelod Chapter. Bydd lefelau golau a sain yn yr orielau yn cael eu haddasu. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o dair ffilm, cyfres o gerfluniau a chasgliad o luniau dyfrlliw.

Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth ychwanegol o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at letty.clarke@artesmundi.org

Mae Naomi Rincón Gallardo yn artist gweledol ac ymchwilydd sy’n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd ym Mecsico. Mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, chwedloniaeth, hanes, ffuglen, dathliadau, crefftau, gemau theatr a cherddioriaeth boblogaidd. Cynnwys ei harddongosfa yn Chapter yw ffilmiau, darluniau ac animatroneg.

Share