Events

Arthole Market

Nodweddion

Sadwrn 25 Mai

11yb – 5yp


Brwydr y Wonk!

Iawn? Mae’n bryd dod â’r fagnel allan a rhoi sglein ar eich crys haearn, oherwydd mae gŵyl ddiweddaraf ArtHole o ddarlunwyr wedi glanio yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter. Â’r Frwydr y Wonk enwog IAWN yn gefndir hanesyddol i’r cyfan, rydym wedi curadu marchnad arall sy’n cynnwys y Darlunwyr a Gwneuthurwyr mwyaf cyffrous sy’n dod i’r amlwg o dde Cymru a thu hwnt. Disgwyliwch nwyddau printiedig, serameg, dillad, pethau neis, ac arteffactau amhrisiadwy o hanes y wonk. Iechyd da, ie?

Deuawd sy’n ymddiddori mewn celf rhyfelwr isel-ael yw ArtHole sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Maen nhw wedi ymrwymo i greu gofodau ymdrochol ar gyfer darlunwyr a phobl ifanc greadigol. Mae hyn yn cynnwys siop yn Arcêd y Castell, marchnadoedd a gweithdai, yn ogystal ag ambell gylchgrawn.


@artholecardiff

Share