Art
Artes Mundi 10: Taith Arddangosfa Naomi Rincón Gallardo
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
Ymunwch â ni ar daith o amgylch arddangosfa Naomi Rincón Gallardo, dan arweiniad Cynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi, Radha Patel.
Artist gweledol ac ymchwilydd yw Naomi Rincón Gallardo, sy’n byw ac yn gweithio ym Mecsico ar hyn o bryd. Mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, mytholeg, hanes, ffuglen, dathliadau, crefft, gemau theatr a cherddoriaeth boblogaidd.
Bydd y daith oriel anffurfiol yma’n archwilio arfer yr artist a themâu’r gwaith sy’n cael ei arddangos yn Chapter.
Os hoffech wneud cais am gymorth hygyrchedd, neu i gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at molly.harcombe@chapter.org