Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Myfanwy MacLeod: The Botanist

Myfanwy MacLeod: The Botanist

The Botanist yw arddangosfa unigol gyntaf yr artist o Ganada, Myfanwy MacLeod, yng Nghymru. Gan gymryd llyfr Michael Pollan The Botany of Desire fel man cychwyn, mae MacLeod yn archwilio pedwar planhigyn: yr afal, y tiwlip, canabis, a’r daten, y mae Pollan wedi’u nodi fel rhai sy’n esblygu ac yn lluosogi ar draws y byd dros ganrifoedd, i fodloni awydd dynol.

Ar draws cyfryngau wahanol, mae MacLeod yn cwestiynu ein hanesion cyd-blethedig drwy’r bodau gwreiddiog yma. Gan feithrin golwg llystyfol, o’r afal tyngedfennol a arweiniodd at gwymp Adda ac Efa, i’r daten ostyngedig, mae MacLeod yn ein cynefino â’r byd botanegol, gan dynnu sylw at y gyd-ddibyniaeth a’r berthynas symbiotig rhwng planhigion a phobl.

 

Ynglŷn â'r artist

Mae Myfanwy MacLeod (g 1961), sydd â chyn-deidiau o Gymru a’r Alban, yn byw ac yn gweithio yn Vancouver, Canada, ar diriogaethau traddodiadol heb eu hildio pobloedd sy’n siarad hən̓q̓əmin̓əm̓ a Sḵwx̱wú7mesh, Cenhedloedd xʷməθkʷəy̓əm (Musqueam), Sḵwx̱wú7mesh (Squamish), a səlilwətaɬ (Tsleil-Waututh). Mae ei gwaith yn ymwneud â chonfensiynau hanesyddol celf fel dylanwadau a rhwystrau ym meirniadaeth ffeministaidd meistrolaeth, athrylith, a grym.

Mae’n defnyddio hiwmor i gyflwyno rhinweddau fel lletchwithdod, hunan-ddirmyg, effaith ac amheuaeth. Drwy wneud hynny, mae’n ymdrin â rhagdybiaethau mewn perthynas â rhywedd, braint a gwerth, drwy archwilio’r gorgyffwrdd rhwng ffurfiau diwylliannol ‘uchel’ ac ‘isel’. Mae wedi creu sawl darn o waith parhaol a dros dro sy’n archwilio’r syniadau a’r canfyddiadau o gwmpas henebion a cherfluniau ffigurol.

Mae wedi arddangos ei gwaith ledled Canada, Awstralia, yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae ei gwaith i’w weld yng nghasgliadau Oriel Genedlaethol Canada, Oriel Gelf Vancouver, a chasgliadau preifat rhyngwladol.

Mae'r arddangosfa yma wedi'i chefnogi gan Canada Council for the Arts, BC Arts Council,Canada Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

 

undefined

 

undefined

Prisiau:

Free | Am ddim

Tocynnau ac Amseroedd