Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
LIGHTBOX: Rosa-Johan Uddoh: Ye Olde Group Chat

LIGHTBOX: Rosa-Johan Uddoh: Ye Olde Group Chat

Mae arfer Rosa-Johan Uddoh yn archwilio sut mae cynrychiolaeth bod yn Ddu a phobl Ddu yn cael ei ffurfio a’i pherfformio mewn diwylliant poblogaidd. Yma mae hi’n archwilio Balthazar, un o’r ffigurau Du cynharaf rydyn ni’n cael eu cyflwyno iddynt yn yr ysgol, ac un o’r tri gŵr doeth a ddilynodd seren a rhoi rhoddion i Iesu newydd-anedig. Mae paentiadau o Balthazar yn cynrychioli rhai o’r cynrychioliadau poblogaidd cynharaf o bobl Ddu yn Ewrop.


Yn y cynulliad clytwaith yma, mae Rosa’n cymell portreadau en masse o Balthazar o baentiadau hanesyddol, gan herio ymyloldeb ddiwylliannol pobl Ddu a’r ffyrdd mae diwylliant gyfoes boblogaidd yn atgynhyrchu ac yn pennu syniadau o’u cynrychiolaeth. Mae gosod Balthazar yn y canol, nad fe bellach yw’r unig berson Du yn y ffrâm, yn cynyddu presenoldeb Du yn Ewrop cyn yr oes fodern a’r eisteddwyr Du a lywiodd y portreadau hyn. Yn y clytwaith yma o sawl Balthazar, gwelwn nad yw pob un yr un fath. Mae ailgyfosodiad Rosa yn eu ymbweru. Er mai ffigwr yw e, sydd â’i hunaniaeth wedi’i siapio gan fyd-olwg Ewropeaidd, mae Rosa’n cyflwyno Balthazar mewn byd newydd, ymhlith cymrodyr, sy’n gweld hunaniaeth fel rhywbeth hylifol ac sy’n broses barhaus o fod. Wrth wrthod status quo Balthazar gynrychiolaeth ddiwylliannol, mae’n cyflawni gweithred o wrthod ac yn dangos pŵer hyn wrth ryddhau ac adnewyddu hunaniaethau Du.


Ynglŷn â'r artist
Artist rhyngddisgyblaethol sy’n gweithio tuag at hunan-gariad radical yw Rosa-Johan Uddoh. Caiff ei hysbrydoli gan arfer a gwaith ysgrifennu ffeministaidd Du. Drwy berfformiad, gwaith ysgrifennu a gosodwaith amlgyfrwng, mae’n archwilio llefydd, gwrthrychau ac enwogion yn niwylliant poblogaidd Prydain, a’u heffeithiau ar hunan-ffurfiant. Mae cydweithio’n allweddol i arfer Rosa, ac mae’n gweithio’n aml gyda phlant, ymgyrchwyr ac artistiaid eraill i archwilio themâu sy’n effeithio ar ein cymunedau ac yn rhannu gwybodaeth.


Diolch i Nasra Abdullahi, a gynorthwyodd Rosa gyda’r gwaith ymchwil ar gyfer y prosiect hwn.

 

Prisiau:

Free | Am ddim

This artwork is displayed at the entrance to Chapter, on the front of our building

Mae'r gwaith celf yma i'w weld ar flaen ein hadeilad, wrth fynedfa Chapter

Tocynnau ac Amseroedd