
Eleni, rydyn ni’n dathlu ein hanner can mlwyddiant, ac i nodi’r achlysur arbennig yma rydyn ni’n arddangos gwaith artistiaid ifanc lleol!
Gwahoddon ni holl blant a phobl ifanc Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i anfon cerdyn post o ddyfodol dychmygol atyn nhw’u hunain, hanner canrif o nawr. Gofynnon ni iddyn nhw adael eu dychymyg yn rhydd: Sut byddwn ni’n teithio? Sut beth fydd yr ysgol? Ble fyddwn ni’n byw? Beth fyddwn ni'n ei fwyta?
Cawson ni nifer anhygoel o geisiadau, 1200, ac rydyn ni wedi’n cyffroi o weld cymaint o ddoniau anhygoel.
Gweithion ni gyda phanel arbenigol o feirniaid i weithio trwy’r cyflwyniadau a gwneud y penderfyniad anodd o ddewis y tri gorau o bob grŵp oedran (5-8 oed, 9-11 oed, a 12-16 oed).
Yna, fe ofynnon ni am eich help chi i ddewis eich ffefryn, diolch i chi am bleidleisio!
Gofynnon ni am eich help i ddewis eich ffefryn, trwy bleidlais gyhoeddus, a’r enillydd y dewisoch chi oedd Anna Hughes:
“Roeddwn eisiau creu delwedd loyw, hwyl a hapus o Gymru heb COVID. Roedd gen i syniad o’r sgrin yn dod i lawr dros ein byd nawr ac yn cael gwared ar y firws.
“Mae mam yn gweithio i’r GIG ac felly dwi wedi gwneud llun ohoni yn ei sgrybs yn tynnu’r sgrin i lawr. Roeddwn yn meddwl os bydda bobl yn gweld y llun bydda’n rhoi gobaith iddynt a dod ac ychydig o lawenydd gan fod pawb wedi cael blwyddyn anodd.
“Pan oeddwn i’n fach roedd tad-cu yn byw ar Stryd y Farchnad ac yn arfer mynd â fi i’r Chapter am deisen. Ni feddyliais i erioed bydda fy ngwaith celf i yn cael ei arddangos yna un diwrnod. Mae’n anhygoel!”
Mae creadigrwydd ein pobl ifanc wedi gwneud argraff mor dda arnon ni, a doedden ni ddim am i’r cyfle yma ganolbwyntio ar enillydd yn unig, felly rydyn ni’n falch o ddweud y bydd yr holl gynigion a gyflwynwyd i’w gweld mewn arddangosfa ar-lein hefyd. www.postcardsfromthefuture.org.uk
Cefnogir y prosiect yma gan:
James Graham Owen, Sefydliad Moondance a Morgans Consult
Sad 26 Maw - Sad 24 Rhag