Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
LIGHTBOX: Gwyl Cymru Festival - Phil Morgan

LIGHTBOX: Gŵyl Cymru - Phil Morgan

Maw 1 Tach 2022 - Sul 2 Ebr 2023

GŴYL CYMRU: PHIL MORGAN

Rydyn ni’n falch o bartneru gyda Gŵyl Cymru i gyflwyno gwaith celf newydd gan yr artist lleol Phil Morgan.

Comisiynwyd y gwaith fel rhan o’r ŵyl, sy’n dathlu llwyddiant hanesyddol Cymru yn cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd, a bydd yr eicon pwerus yma o barch a goddefgarwch yn ei le tan ddiwedd mis Ionawr 2023.

Bydd Gŵyl Cymru yn dechrau ar 19 Tachwedd, a’i nod yw uno a hyrwyddo’r cyfoeth o gelfyddyd, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer taith hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd – mewn lleoliadau ar draws y wlad a’r tu hwnt. Drwy greu gofodau a chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiant tîm cenedlaethol y dynion, mae Gŵyl Cymru hefyd yn gobeithio cyflwyno celfyddyd, iaith a diwylliant Cymru i gynulleidfaoedd newydd – gan sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022.

Eleni, cynhelir cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar, gwlad lle mae perthnasau o’r un rhyw yn drosedd. Nod gwaith Phil yw cynnig symbol trawiadol i gyd-sefyll â chymunedau LHDTCRhA+, gartref a thramor, gyda lliwiau’r enfys yng nghanol arwydd cyfarwydd, sef dwylo Gareth Bale mewn siâp calon.

Mae’r gwaith celf yn rhan o raglen o ddigwyddiadau a gweithgarwch yn Chapter yn ystod yr ŵyl. I gael rhagor o wybodaeth am ein Digwyddiadau, ewch i www.chapter.org neu gofynnwch wrth ein Desg Wybodaeth.

 

Ynglŷn â'r artist

Mae Phil Morgan yn defnyddio elfennau cyfarwydd o ddiwylliant pop – gan gynnwys seicedelia’r saithdegau, technoleg yr wythdegau, a diwylliant stryd y nawdegau – ac yn eu hailbwrpasu gyda winc a gwên.

Gan weithio mewn ystod o fformatau – murluniau, dylunio graffeg, celf bwrdd sglefrio, paentiadau a phrintiau sgrin – mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd ledled yr Unol Daleithiau, gwledydd Prydain, Awstralia a Ffrainc. Mae ei arddull unigryw wedi cael ei ddefnyddio gan ystod o gwmnïau sglefrio a syrffio, ac mae hefyd wedi ymddangos yn y Washington Post, Urban Outfitters, Dr Marten’s a chyhoeddiad Kiss The Past Hello Coca Cola.

Mae Phil Morgan yn byw ac yn gweithio ym Mhenarth ym Mro Morgannwg.

Gwnaed y gwaith comisiwn hwn yn bosib drwy Ŵyl Cymru. Diolch hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi ein rhaglen Cwpan y Byd ehangach o weithgareddau creadigol.

 

Logos - Arts Council Wales National Lottery Funding Digital Toolkit

Prisiau:

Free | Am ddim

Tocynnau ac Amseroedd