
Yn ei arddangosfa unigol fwyaf hyd yma, mae Leo Robinson yn cyflwyno dyfodol myfyrgar lle mae pobl ar wasgar, drwy ymgais i iacháu, wedi ailadeiladu arferion a defodau i feithrin hunan-wybodaeth. Mae gwaith cyfoethog Robinson yn adeiladu byd yn cwmpasu oraclau, sgoriau cerddorol a gwrthrychau sy’n tywys teithiau ysbrydol o drawsnewid.
Mae gemau bwrdd yn darparu atebion i gwestiynau’r meddwl a’r ysbryd, gan dywys eu defnyddwyr ar deithiau drwy fydoedd symbolaidd. Mae llestri seramig, darnau gêm a ffliwtiau, ynghyd â dillad, yn cyfeirio at berfformiad a seremoni; mae gwrthrychau a ddarganfuwyd, lluniau ac effemera o ddiwylliant cyfoes gan gynnwys cardiau Pokémon a lluniau o Instagram a TikTok yn mabwysiadu mytholegau newydd wrth iddyn nhw ymddangos mewn gweithiau ar draws cyfryngau amrywiol, gan gynnwys paentio, cerflunwaith, tecstilau a chlytwaith.
Mae iaith symbolaidd Robinson yn ailadrodd drwy’r gwaith, y rhwyd, y fflam, y blodyn yn blodeuo, y primat, y llestr, y groes, ac mae amrywiadau’n chwarae allan mewn seicodrama ddiddiwedd. Mae teitl yr arddangosfa’n deillio o waith Robinson ‘The Infinity Card’ sy’n gweithredu fel gwrthrych defod a chyfarwyddyd – mae cyfuniad penodol o sticeri plant ar y garden yn gweithredu fel rhan o sgôr gerddorol symbolaidd wedi’i rheoli gan siawns.
Mae’r arddangosfa’n adlewyrchu ymgysylltiad Robinson gyda chosmolegau brodorol a’i astudiaeth a’i ddefnydd o ddull dewiniaeth hynafol Tsieineaidd, I Ching. Mae ei waith yn gofyn i ni gwestiynu’r naratifau amlycaf a bod yn agored i rym a photensial creu defodau i wneud synnwyr o’n bydoedd mewnol a’r byd o’n cwmpas.
Ynglŷn â'r Artist
Artist a cherddor sy’n byw ac yn gweithio yn Glasgow yw Leo Robinson. Mae ei arfer artistig yn cydredeg â’i archwiliadau mewn ysbrydolrwydd a hunan-ddarganfyddiad. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: ‘Theories for Cosmic Joy’, Tiwani Contemporary, 2019. Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys ‘To The Edge of Time’, KU Leuven, Leuven, Gwlad Belg, ‘Antechamber’, Quench, Margate, Lloegr, ‘Bathing Nervous Limbs’, Oriel Arusha, Caeredin, yr Alban, ‘tender spots in hard code…’, Arebyte, Llundain, Lloegr (oll yn 2021) a ‘Talking Back’, Oriel Holden, Manceinion, Lloegr (2019).
Cefnogir yr arddangosfa drwy haelioni’r Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland a Tiwani Contemporary.
Lawrlwythwch y Daflen Arddangosfa yma.
Lawrlwythwch ysgrif gan Joseph Morgan Schofield yma.
Cyfres o ddigwyddiadau The Infinity Card: Mae’r rhaglen o digwyddiadau yn cyd-fynd ag arddangosfa unigol Leo Robinson, The Infinity Card, yn Oriel Chapter tan 16 Ebrill 2023. Mae'r digwyddiadau a filmiau'n eich trochi mewn Affroddyfodoliaeth, arferion defodol, amser aflinol a chyflyrau seicolegol wedi'u newid – gan ddatgan gwahanol ffyrdd o ail-ddychmygu ein gorffennol a'n dyfodol. Gallwch ddarganfod mwy am ddigwyddiadau The Infinity Card yma