Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
ART IN THE BAR: Seo Hye Lee - [sound of subtitles]

CELF YN Y CAFFI: Seo Hye Lee - [sound of subtitles]

Sad 4 Chw - Sul 21 Mai

Mae Seo Hye Lee yn cyflwyno [sound of subtitles], sef ffilm fud lle mae’r un delweddau’n cael eu hailadrodd ar draws tair sgrin, gyda gwahanol fathau o isdeitlau ym mhob ffrâm: un ar sail gweithred, un haniaethol, ac un ar sail cerddoriaeth. Mae Seo Hye yn archwilio’r gwahaniaethau cynnil rhwng iaith a sain, gan gysylltu ffurfio clai gyda siapio iaith a chyfathrebu o symudiad, ystum a theimlad. 

Mae’r ffilm yn archwilio hanes a gwelededd isdeitlau, gan bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng ‘clywed’ a ‘gwrando’, ac yn eich annog i greu eich dehongliad eich hunan o sain a digwyddiad. Ochr yn ochr â’r ffilm, mae isdeitlau’n arnofio ar hyd y wal, heb gysylltiad â’r delweddau yn y ffilm, gan eich annog i ystyried eich atgofion synau a ddigwyddiadau. 

Mae ar Seo Hye angen isdeitlau neu gapsiynau caeedig erioed wrth wylio teledu a ffilm. Fel rhywun a gafodd ei fagu heb brofiad o ddiwylliant cerddoriaeth bop, mae hi bob amser wedi mwynhau’r syniad o ailddychmygu sut gallai cerddoriaeth swnio, mewn ffurf fwy haniaethol; gan gysylltu synau ag emosiynau amrywiol. Mae’r gwaith yma’n ein rhoi ni fel gwylwyr yn y sefyllfa yma, heb ddealltwriaeth gasgliadol o beth yw [swn tawelwch llonydd]. Waeth beth yw ein lefel o glywed, gallwn archwilio ein seinwedd unigryw ein hunan ac ailddychmygu ystyr gwrando. 

Cafodd y gwaith yma ei gyd-gomisiynu gan Gasgliad Celf Prifysgol Salford a videoclub. 

 

Ynglŷn â'r artist 

Mae Seo Hye Lee’n diffinio ei hunan fel artist sy’n defnyddio cyfryngau sain, darlunio a fideo i arbrofi gyda ffurfiau newydd o naratif, gan greu darnau chwareus sy’n herio’r syniad o wrando. Gan dynnu ysbrydoliaeth o’i phrofiad o golli clyw, nod Seo Hye yw dangos y gwahaniaeth rhwng gwrando a chlywed; waeth beth yw eich lefel o glywed, gallwch bob amser wrando mewn ystod o ffyrdd. Ymhlith ei harddangosiadau diweddar, mae: ‘Selected 12 UK Tour’, CCA Glasgow, Oriel Fabrica, Brighton, y Coleg Celf Brenhinol, Llundain, Nottingham Contemporary, G39, Caerdydd, Oriel John Hansard, Southampton, ‘Days of Wonder’, Oriel Gelf ac Amgueddfa Hove (I gyd 2022). 

 

Hear We Are 

Mae’r arddangosfa yma’n cyd-fynd â phrosiect Hear We Are gan Jonny Cotsen dan arweiniad pobl fyddar, mewn partneriaeth â Chapter drwy gyllid Cysylltu a Ffynnu Cyngor y Celfyddydau. Nod y prosiect yw sefydlu rhwydwaith Cymru gyfan o ofodau diogel i bobl greadigol Fyddar a Thrwm eu Clyw gwrdd, rhannu profiadau, ac archwilio syniadau. Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau rhwng 4 a 6 Mai 2023, ac i gael rhagor o wybodaeth dilynwch @hearweare_. 

 

Prisiau:

Free | Am ddim

Tocynnau ac Amseroedd