
Mae paentiadau ffigurol Rithika Pandey yn gyfoeth o liw ac yn deillio o’i phlentyndod fel crwydryn diwylliannol; fe’i magwyd mewn teulu a oedd yn symud o le i le yn India ac Affrica, cyn mynd i astudio yng ngwledydd Prydain. Rhoddodd y profiadau yma gasgliad hynod iddi o argraffiadau o liwiau a bywiogrwydd unigryw sy’n dod â’i phaentiadau’n fyw.
Mae ei harfer yn defnyddio’r personol, y chwedlonol, a’r gwyddonol i lywio’r gofodau cyfriniol o fewn ein cysylltiadau dynol. Gan roi llwyfan i faterion yn ymwneud â hybridedd, dadleoli, y dyfodol, a benyweidd-dra, mae ei bydoedd paentiedig yn ofodau cysegredig lle mae ffiniau’n cael eu croesi, a thrawsnewidiadau ar fin digwydd.
Mae’r bydoedd dychmygol yma’n cynnig realiti rhyngserol, wedi’u meddiannu gan fotiffau seicolegol grymus, gyda chymeriadau sy’n siarad mewn trosiadau di-eiriau, yn ogystal â grymoedd mwy-na-dynol wedi’u plethu yn gywrain ynghyd mewn defod. Mae ei gwaith yn tynnu sylw at natur cwmnïaeth ac adferiad, ac yn agor posibiliadau alegorïaidd dyfodol sy’n mynd y tu hwnt i apocalyps fel diweddbwynt.
Ganwyd Rithika Pandey yn Varanasi, India ym 1998. Ar ôl graddio o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn ddiweddar, mae hi bellach yn byw rhwng India a gwledydd Prydain.
Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘Hymn of creation’, ADA, Rhufain, yr Eidal ac ‘Only What is Never Another’, Oriel Grosvenor, Llundain, Lloegr (ill dwy yn 2022); ‘No Rushing For Warmth’ Unit 1 Gallery Workshop, Llundain, Lloegr a ‘The Past is a Foreign Place’, Arcade Campfa, Caerdydd (ill dwy yn 2021).
Llun: Rithika Pandey, family script.
Iau 13 Hyd 2022 - Sul 31 Rhag 2023
Iau 13 Hyd 2022 - Sul 31 Rhag 2023
Sad 10 Rhag 2022 - Sul 16 Ebr 2023