Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

ART IN THE BAR: Leanne Ross: ALL MY PALS

CELF YN Y CAFFI: Leanne Ross: ALL MY PALS

Mae paentiadau ‘Shout Out’ Leanne Ross yn dathlu iaith bywyd bob dydd yn chwareus. Mae’n casglu ymadroddion a geiriau mae hi wedi digwydd, i greu datganiadau barddonol sy’n llawn hiwmor a chynhesrwydd. Mae ‘ALL MY PALS’ yn dod â chasgliad o waith Leanne at ei gilydd, gan greu cacoffoni o sgyrsiau sy’n cael eu mwyhau gan liw. Mae ei harfer yn ein hatgoffa bod y ffyrdd rydyn ni’n dysgu iaith yn rhai cymunedol, ac mai’r diwylliant yma a rennir sy’n atseinio mor gryf. Ar draws waliau ein caffi, sy’n ofod cyhoeddus lle gallwn ni sgwrsio a digwydd clywed pethau, mae’r ‘Shout Outs’ yma’n cynnig eiliadau cymunedol ac ymdeimlad o fod gyda’n gilydd.

 

Ynglŷn â'r artist

Mae Leanne Ross yn byw ac yn gweithio ym Midlothian, yr Alban. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn Glasgow International a Frieze Llundain. Mae Leanne yn rhan o KMAdotcom (Kiss my Art) – casgleb o artistiaid a gefnogir gan Artlink sy’n dod â grŵp amrywiol o artistiaid ynghyd mewn lle cefnogol sy’n annog creadigrwydd unigol ac ar y cyd.

Prisiau:

Free | Am ddim

Tocynnau ac Amseroedd