Still image from the film Twin Town . Two young men lean over their shoulder in the front seats of a car to talk to the passengers in the back seat. The man on the left has short blonde hair and a cut on his nose and bottom lip.

Film

ART OF ACTION: Twin Town + Q&A (18)

18
  • 1997
  • 1h 35m
  • Wales

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Kevin Allen
  • Tarddiad Wales
  • Blwyddyn 1997
  • Hyd 1h 35m
  • Tystysgrif 18
  • Math Film

Wrth weithio ar do, mae Fatty Lewis yn cwympo oddi ar ysgol ac yn brifo, sy’n dechrau brwydr rhwng ei deulu a chontractwr y to, Bryn Cartwright. Mae meibion adnabyddus afreolus Fatty, sef Julian a Jeremy, yn ceisio cael iawndal gan Cartwright, sy’n gwrthod talu. Mae’r “efeilliaid” Lewis yn achosi anarchiaeth, nid yn unig ar Cartwright a’i deulu, ond ar bwy bynnag maen nhw’n dod ar eu traws. Tamaid clasurol beiddgar a di-flewyn-ar-dafod o fywyd Cŵl Cymru a lansiodd yrfa Rhys Ifans.

+ Sesiwn holi ac ateb gyda Kevin Allen

____

Cymry’r ffilmiau Cyffro

Byddwn ni’n edrych ar dair ffilm gyffro o Gymru, y ffilm noir o’r pumdegau Hell Drivers gyda Stanley Baker hudolus; anarchiaeth y nawdegau yn Twin Town; a’r ffilm chwyldroadol fodern The Raid sy’n arddangos doniau Jakarta drwy lygaid Hirwaun.

Mae’r tair ffilm yma’n rhoi cipolwg ar sut mae Cymru wedi bod yn allweddol i adegau gwahanol iawn ym myd ffilm gwledydd Prydain ac yn arddangos hunaniaeth Gymreig yn y diwydiant ffilm. Daeth Stanley Baker i’r amlwg yn y byd theatr ar yr un pryd â Richard Burton, ond byddai’n cael ei gastio fel dihiryn yn aml iawn, gan blygu i’r syniadau o’r ‘Taffy’ ar y pryd. Serch hynny, drwy ei ddeallusrwydd a’i sgiliau daeth i gael ei barchu, ac wedi hynny aeth ymlaen i weithio ar ffilmiau fel Zulu, gan gyflwyno syniad mwy cynnil o Gymru i’r byd ehangach. Chwalodd Twin Town y syniad o gymoedd parchus y de, gyda’r olygfa agoriadol yn dangos y ddau frawd yn gyrru’n wyllt drwy’r strydoedd. Wedi’i chreu ym mlynyddoedd hyderus ac eithafol Britpop, roedd y ffilm yn mynd ati i ddathlu darlun mwy llawn o ddiwylliant Cymru: trais, cyffuriau a hiwmor tywyll. Yn olaf, edrychwn ar The Raid, a wnaed gan y Cymro Gareth Evans. Wrth weithio ar ei ffilm ddogfen gynnar ar y grefft ymladd Pencak Silat, aeth i Indonesia, a dyna lle taniodd y syniad ar gyfer y ffilm arloesol yma, sydd wedi dod yn un o’r ffilmiau cyffro uchaf ei pharch yn y blynyddoedd diwethaf. Drwy’r cyffro a’r camgymeriadau, edrychwn ar sut mae doniau Cymru wedi lansio i’r byd.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share