Film
ART OF ACTION: The Raid (18)
- 2011
- 1h 41m
- Indonesia
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Gareth Evans
- Tarddiad Indonesia
- Blwyddyn 2011
- Hyd 1h 41m
- Tystysgrif 18
- Math Film
Mewn adeilad uchel yn Jakarta, mae Rama, sy’n aelod newydd o gyrchlu elitaidd, yn dal yn ôl pan fydd ei gyd-swyddogion yn bwrw ati gyda’r ymgyrch i gipio’r arweinydd troseddol creulon, Tama. Ond maen nhw’n cael eu darganfod, ac mae Tama’n cynnig noddfa i bob troseddwr yn y bloc fflatiau yn gyfnewid am bennau’r heddweision. Nawr mae’n rhaid i Rama gymryd yr awenau ac arwain gweddill y tîm ar ymgyrch dreisgar drwy’r adeilad i gyflawni (a goroesi) yr ymgyrch. Gyda thechnegau ffilmio arloesol a chyflym fel chwip, awn ar daith ddwys i achubiaeth gyda’r gwneuthurwr ffilm o Gymru, Gareth Evans.
____
Cymry’r ffilmiau Cyffro
Byddwn ni’n edrych ar dair ffilm gyffro o Gymru, y ffilm noir o’r pumdegau Hell Drivers gyda Stanley Baker hudolus; anarchiaeth y nawdegau yn Twin Town; a’r ffilm chwyldroadol fodern The Raid sy’n arddangos doniau Jakarta drwy lygaid Hirwaun.
Mae’r tair ffilm yma’n rhoi cipolwg ar sut mae Cymru wedi bod yn allweddol i adegau gwahanol iawn ym myd ffilm gwledydd Prydain ac yn arddangos hunaniaeth Gymreig yn y diwydiant ffilm. Daeth Stanley Baker i’r amlwg yn y byd theatr ar yr un pryd â Richard Burton, ond byddai’n cael ei gastio fel dihiryn yn aml iawn, gan blygu i’r syniadau o’r ‘Taffy’ ar y pryd. Serch hynny, drwy ei ddeallusrwydd a’i sgiliau daeth i gael ei barchu, ac wedi hynny aeth ymlaen i weithio ar ffilmiau fel Zulu, gan gyflwyno syniad mwy cynnil o Gymru i’r byd ehangach. Chwalodd Twin Town y syniad o gymoedd parchus y de, gyda’r olygfa agoriadol yn dangos y ddau frawd yn gyrru’n wyllt drwy’r strydoedd. Wedi’i chreu ym mlynyddoedd hyderus ac eithafol Britpop, roedd y ffilm yn mynd ati i ddathlu darlun mwy llawn o ddiwylliant Cymru: trais, cyffuriau a hiwmor tywyll. Yn olaf, edrychwn ar The Raid, a wnaed gan y Cymro Gareth Evans. Wrth weithio ar ei ffilm ddogfen gynnar ar y grefft ymladd Pencak Silat, aeth i Indonesia, a dyna lle taniodd y syniad ar gyfer y ffilm arloesol yma, sydd wedi dod yn un o’r ffilmiau cyffro uchaf ei pharch yn y blynyddoedd diwethaf. Drwy’r cyffro a’r camgymeriadau, edrychwn ar sut mae doniau Cymru wedi lansio i’r byd.
Rhaghysbysebion a chlipiau
More at Chapter
-
- Film
ART OF ACTION: The Woman King (15)
The epic true story of the Aoijie, a battalion of female warriors in Western Africa.
-
- Film
ART OF ACTION: Twin Town + Q&A (18)
Mae dau frawd afreolus yn creu hafoc yn Abertawe yn y glasur Cŵl Cymru yma.
-
- Film
ART OF ACTION: Point Break (15)
Y ddrama drosedd wyllt o ddifyr yma wnaeth lansio Keanu Reeves fel seren gyffro ar uchafbwynt ei enwogrwydd fel pishyn y nawdegau.