Film
ART OF ACTION: The Panther Women (adv15)
- 1967
- 1h 27m
- Mexico
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan René Cardona
- Tarddiad Mexico
- Blwyddyn 1967
- Hyd 1h 27m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
Mae’r reslwyr benywaidd ffyrnig Loreta Venus a The Golden Rubi yn dod yn rhan o gorwynt o hud tywyll. Mae’r ddwy’n cael eu gosod yn erbyn y Panther Women, sef cwlt hudolus a satanaidd o werepanthers sy’n rhyfela’n ddi-baid yn erbyn disgynyddion y derwydd a laddodd eu harweinydd hynafol. Gyda’r ddawnswraig ecsotig a’r vedette gyfareddol Tongolele yn ychwanegu i’r chwilfrydedd, rydyn ni’n cael dos o wefrau pylp a chyffro egnïol. Cyfuniad hyfryd o arswyd gothig a byd y lucha libre, gyda rhyw fersiwn o El Santo a gwledd o reslwyr hardd sy’n dyheu am waed.
____
She Packs a Punch
Plymiwn i fyd gwyllt sinema pulp Mecsico’r chwedegau, gyda’r bil dwbwl gwych yma gyda dwy ffilm wedi’u hadfer gan y cyfarwyddwr René Cardona. Gan ddangos ei ddawn am gyffro, ysblander a lucha libre, maen nhw’n amlygu rhai o sêr cyffro benywaidd mwyaf cyfareddol y cyfnod. Tra bod y ffilmiau yma’n pwyso tua’r genre ecsbloetiaeth, maen nhw hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn dod â luchadoras – nad oedd yn cael cystadlu yn y ring ar y pryd – i’r sgrin ac i’r sbotolau roedden nhw’n ei haeddu. Diolch i’n ffrindiau Invisible Women a Chasgleb TAPE, mae’r ffilmiau yma’n cynnig cyfle i ailddarganfod a gwerthfawrogi’r menywod pwerus a oedd – fel Batwomen, Werepanthers neu reslwyr – wrth wraidd y ffilmiau cyffro a ddaeth yn rhan o ganon y ffilmiau cwlt pylp.
More at Chapter
-
- Film
ART OF ACTION: The Bat Woman
In picturesque Acapulco, a series of wrestler murders prompts the enigmatic Batwoman to investigate.
-
- Film
ART OF ACTION: The Raid (18)
Mae tîm S.W.A.T yn cael eu caethiwo gan droseddwr didostur a’i fyddin o ddihirod.
-
- Film
ART OF ACTION: The Woman King (15)
The epic true story of the Aoijie, a battalion of female warriors in Western Africa.
-
- Film
ART OF ACTION: Twin Town + Q&A (18)
Mae dau frawd afreolus yn creu hafoc yn Abertawe yn y glasur Cŵl Cymru yma.