Film
ART OF ACTION: The Heroic Trio (18)
- 1993
- 1h 28m
- Hong Kong
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Johnnie To
- Tarddiad Hong Kong
- Blwyddyn 1993
- Hyd 1h 28m
- Tystysgrif 18
- Math Film
Yn Hong Kong, mae babanod yn cael eu herwgipio gan yr Invisible Woman ar gyfer yr Evil Master, sy’n bwriadu eu magu nhw i ddod yn rhyfelwyr diguro. Mae chwaer yr Invisible Woman, Tung, sy’n briod â’r heddwas sy’n ymchwilio i’r achosion o herwgipio, yn brwydro troseddau’n gyfrinachol fel Wonder Woman. Pan fydd yr Invisible Woman yn ailgysylltu â’i chwaer a’i chyfaill o’i phlentyndod, Thief Catcher, mae hi’n cael ei hargyhoeddi i ymuno gyda nhw i guro’r Evil Master.
Mae’r plot rhyfedd ac anarferol yma – y mae llawer yn ei ystyried fel sylwebaeth ar drosglwyddiad Hong Kong i Tsieina, oedd ar fin digwydd – yn gefndir i gyfres o ddilyniannau cyffro rhagorol gan sêr benywaidd mwyaf sinema Hong Kong. Cartŵn actorion byw nad yw’n cymryd ei hunan ormod o ddifrifol.