Film

ART OF ACTION: The Bat Woman

adv15
  • 1968
  • Mexico

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan René Cardona
  • Tarddiad Mexico
  • Blwyddyn 1968
  • Tystysgrif adv15
  • Math Film

Yn Acapulco hardd, mae cyfres o lofruddiaethau reslwyr yn sbarduno’r Batwoman enigmatig i ymchwilio. Gwyddonydd gwallgo sydd tu ôl i’r dirgelwch, sy’n cipio reslwyr ar gyfer ei arbrofion gwyrdroëdig, a chyfrifoldeb Batwoman, sydd hefyd yn ddeifar cwrel, yn reslwr, yn saethwr, ac yn ysbïwr, yw ei atal. Gyda chlogyn, cwfl a bicini amdani, mae Batwoman yn cynnig cyffro dwys a helfeydd car epig mewn cyfuniad unigryw llawn cyffro o dyndra, chwilfrydedd a champrwydd, gyda pherfformiad bythgofiadwy Monti yn seren y sioe.

Wedi’i chyflwyno gan y gasgleb ffilm ffeministaidd Invisible Women a chasgleb T A P E. Diolch arbennig i Viviana García Besné o Permanencia Voluntaria.

____

She Packs a Punch

Plymiwn i fyd gwyllt sinema pulp Mecsico’r chwedegau, gyda’r bil dwbwl gwych yma gyda dwy ffilm wedi’u hadfer gan y cyfarwyddwr René Cardona. Gan ddangos ei ddawn am gyffro, ysblander a lucha libre, maen nhw’n amlygu rhai o sêr cyffro benywaidd mwyaf cyfareddol y cyfnod. Tra bod y ffilmiau yma’n pwyso tua’r genre ecsbloetiaeth, maen nhw hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn dod â luchadoras – nad oedd yn cael cystadlu yn y ring ar y pryd – i’r sgrin ac i’r sbotolau roedden nhw’n ei haeddu. Diolch i’n ffrindiau Invisible Women a Chasgleb TAPE, mae’r ffilmiau yma’n cynnig cyfle i ailddarganfod a gwerthfawrogi’r menywod pwerus a oedd – fel Batwomen, Werepanthers neu reslwyr – wrth wraidd y ffilmiau cyffro a ddaeth yn rhan o ganon y ffilmiau cwlt pylp.

Share