Film

ART OF ACTION: Terminator 2: Judgement Day (15)

15
  • 1993
  • 2h 17m
  • USA

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan James Cameron
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 1993
  • Hyd 2h 17m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Mae hi un-ar-ddeg mlynedd wedi The Terminator, lle cafodd Sarah Connor ei hachub er mwyn rhoi genedigaeth i ddarpar arweinydd gobaith olaf gwareiddiad yn erbyn y robotiaid: John Connor. Gwelwn John ifanc styfnig yn byw mewn cartref maeth, a’i fam mewn gwallgofdy. Mae’r robotiaid wedi dod o hyd i ffordd o ymladd yn ôl, ac wedi anfon Terminator arall sy’n newid siâp o’r dyfodol i’w ladd. Ond, mae T-800 wedi’i adnewyddu, sy’n edrych yn union fel ei ragflaenydd marwol ond fod ganddo gyfarwyddiadau i amddiffyn John, wedi cael ei anfon yn ôl gan y Gwrthsafiad. Mae John yn canfod ei fam ac yn creu cynllun i oroesi gyda’r T-800. Ffilm ddilynol ffrwydrol a chyffrous, gydag effeithiau gweledol syfrdanol sydd, yn debyg i Aliens, yn gosod disgwyliadau newydd o ran yr hyn gall ffilm ddilynol ei gyflawni.

Share