Film

ART OF ACTION: Polite Society (12A)

12A
  • 2023
  • 1h 43m

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Nida Manzoor
  • Blwyddyn 2023
  • Hyd 1h 43m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Mae Ria Khan yn ei harddegau ac yn dyheu am gael bod yn styntwraig. Mae’n ffyddlon i’w chwaer hŷn artistig Lena, ac yn cael ei syfrdanu pan fydd Lena fel petai’n troi ei chefn ar ei hen fywyd ac yn dyweddïo â’r llawfeddyg dengar Salim. Ar ôl gofyn am gymorth ei ffrindiau, mae Ria’n ceisio cynllwynio ymosodiad uchelgeisiol ar y briodas, yn enw annibyniaeth a chwaeroliaeth. Ffilm ddeinamig a drygionus ddoniol gan grëwr We Are Lady Parts; dyma stori anarchaidd am deulu a chwympo mewn cariad sy’n rhannol gomedi crefft ymladd, yn rhannol Bollywood, ac yn galon i gyd.

Yr hyn mae pobl yn ddweud

“An action-comedy that exuberantly smashes the patriarchy. Nida Manzoor’s film is a charm offensive that simply doesn’t let up.”

—Ross McIndoe, Slant Magazine

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share