Film

ART OF ACTION: Crouching Tiger Hidden Dragon (12)

12
  • 2000
  • 2h 0m

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Ang Lee
  • Blwyddyn 2000
  • Hyd 2h 0m
  • Tystysgrif 12
  • Math Film

Yn Tsieina ers stalwm, mae dwyn cleddyf chwedlonol yn arwain dau archryfelwr ar drywydd lleidr dirgel mewn mwgwd. Mae clasur Ang Lee, a enillodd wobrau Oscar, yn rhyngblethu golygfeydd cynhyrfus anhygoel gyda straeon epig am gariad ac mae’n cael ei ystyried yn eang yn un o ffilmiau gorau’r 21ain ganrif.

Caiff ei ddangos fel rhan o Art of Action, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ac mae’n bosibl diolch i rodd gan Ymddiriedolaeth Brainwave, er cof am Ewart Parkinson OBE.

Peiriannydd a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chynllunio ar gyfer Cyngor Sir De Morgannwg oedd Ewart Parkinson, a arweiniodd y gwaith o droi canol dinas Caerdydd yn ardal i gerddwyr ac o ddatblygu Bae Caerdydd. Roedd yn angerddol am gefnogi creadigrwydd a chynwysoldeb yng Nghaerdydd a Chymru. Ein nod ar gyfer y rhaglen yma, sy’n cael ei hariannu, yw annog a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau dawnus.

Mae digwyddiadau’r BFI Film Academy Nghymru yn cael eu darparu gan Chapter a’u cefnogi gan gyllid y Loteri Genedlaethol.

* Sylwch mai 12 ac nid 12A yw’r ffilm felly ni chaiff plant dan 12 oed ddod i’w gweld, hyd yn oed os oes rhiant neu warcheidwad gyda nhw.

Share