i

Performance

An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge

  • 1h 15m

£12 - £14

Nodweddion

  • Hyd 1h 15m
  • Math Dance

Gan yr Ysgogydd, Gwneuthurwraig a’r Fam Deborah Light

‘Rage hides a wound’ Sharon Blackie

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i fod yn dyst i archwiliad tri gwrthrych sy’n ymddangos yn gwbl ddigyswllt.

Wrth i Deborah ddarganfod llinyn cyswllt rhwng mam, arth ac oergell mae’n dadlennu ei bregusrwydd, ei dicter, ei hiwmor a’i chryfder ei hun. Gyda chreulondeb oeraidd, didwylledd cynnes a chynddaredd ffeministaidd tanllyd mae’n datgelu profiadau personol a systemau patriarchaidd sy’n rhoi pwysau ar y corff benywaidd.

Profiad dawns/theatr grymus ac agos atoch.

___

Digwyddiadau ychwanegol

Dydd Sadwrn 25 Ebrill, 2-4pm
Ymunwch â’r artist Kath Ashill mewn trafodaeth ymlaciol yn archwilio themâu An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge. Does dim angen darllen ymlaen llaw! Darganfyddwch fwy ac archebwch.

Nos Iau 29 Ebrill
I ddilyn y perfformiad bydd trafodaeth rhwng yr artist, Deborah Light, a Churadur Perfformiadau Chapter, Kit Edwards.

Perfformiad prynhawn, ddydd Mercher 30 Ebrill, 1pm
Mae croeso i rieni a gofalwyr ddod â babanod o dan 12 mis oed. I ddilyn y perfformiad yma bydd trafodaeth anffurfiol gyda phaned a chacen, dan arweiniad Deborah Light.

___

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Cefnogir gan Chapter, CDCCymru, YMa a Taking Flight

Mae sgript (bapur neu ddigidol) ar gael ymlaen llaw ar gais ac yn y perfformiad. Mae’r sgript hon yn cynnwys pwyntiau cyfeirio gweledol a manylion ynghylch y gerddoriaeth / elfennau sain sy’n rhan o’r cynhyrchiad.

___

Content information

Recommended for audiences aged 14+

References to:
- death
- motherhood/matrescence
- surgery
- violence against women
- gender based inequality
- ageing
- climate change

Potential strong language.

Share

Times & Tickets