Art

Taith Arddangos Artes Mundi 10: Naomi Rincón Gallardo

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Taith arddangos i oedolion sydd â chyflyrau prosesu synhwyraidd/canfyddiad


Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer oedolion sydd â chyflyrau prosesu synhwyraidd neu ganfyddiad, i roi trosolwg o’r gwaith yn arddangosfa Artes Mundi 10. Mae hyn yn cynnwys pobl niwrowahanol a phobl sy’n byw gyda dementia. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno gan Gynhyrchydd Ymgysylltu hyfforddedig a bydd yn rhoi cyflwyniad i’r gwaith yn Chapter, ei gyd-destun ac ymarfer yr Artist.

Ein nod yw darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol gydag addasiadau i lefelau golau a sain yn yr oriel. Bydd teclynnau amddiffyn y clustiau a theganau ffidlan ar gael, ond rydym yn annog ymwelwyr i ddod â’u teganau eu hunain yn ôl yr angen. Rydym hefyd yn cynghori ymwelwyr i ddod â’u sbectol eu hunain gan fod golau yn yr oriel yn gallu bod yn llachar iawn neu’n eithaf tywyll. Bydd y daith yn cynnwys amser a lle ychwanegol i drafod a myfyrio.

Mae lleoedd yn brin a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.

Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at letty.clarke@artesmundi.org

Gwybodaeth am yr Artist:

Artist gweledol ac ymchwilydd sy’n byw ac yn gweithio ym Mecsico yw Naomi Rincón Gallardo. Mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, chwedloniaeth, hanes, ffuglen, dathliadau, crefftau, gemau theatr a cherddoriaeth boblogaidd. Cynnwys ei harddangosfa yn Chapter yw ffilmiau, darluniau ac animatroneg sy’n adrodd straeon newydd am fydoedd dychmygol sy’n ymgorffori safbwyntiau ffeministaidd a chwîyr.


Share