
UDA | 1981 | 60’ | dim tystysgrif | Barbara McCullough
Roedd Barbara McCullough yn un o’r ffigurau allweddol oedd yn pontio’r celfyddydau gweledol a sinema yn UCLA. Yn y ffilm yma, mae’n archwilio artistiaid yn Los Angeles gan fyfyrio ar ddefod yn eu bywydau a’u celf. Mae’r artist gweledol David Hammons yn cymharu ei weithgareddau â cherddorion sydd ar flaen y gad, ac mae’n byrfyfyrio cyfansoddiad awyr agored o wrthrychau mae’n eu canfod. Mae’r beirdd Raspoeter Ojenke, Kenneth Severin, K. Curtis Lyle a Kamau Daa’ood yn disgrifio ac yn arddangos eu dulliau synergaidd, a cherddorion byrfyfyr Freedom in Expression hefyd, gan gyfeilio i’w gilydd gyda llais a churiadau. Mae Kinshasha Cornwill a Houston Cornwill yn disgrifio eu cyweithiau. Mae Senga Nengudi yn cofio’r cywaith perfformio a lwyfannodd o dan draffordd yn Los Angeles. Ac mewn sgwrs agos, mae Betye Saar yn cynnig diffiniad ysbrydoledig o ddefod i McCullough: Nid defod yn unig yw, ond hefyd yr hyn sy’n teimlo’n “gywir”, proses sy’n meithrin hyder yr artist a’r traddodiadau y gellir eu pasio ymlaen i genedlaethau’r dyfodol.
+ Cyflwyniad gan Sim Panaser, Curadur (Celf weledol)
Mae'r ffilm yma yn rhan o'r Rhaglen Digwyddiadau: The Infinity Card ac wedi'i ddewis yn arbennig i gyd-fynd ag arddangosfa unigol Leo Robinson. Mae'r gyfres o ffilmiau i'ch trochi mewn Affroddyfodliaeth, arferion defodol, amser aflinol a chyflyrau seicolegol wedi'u newid – gan ddatgan gwahanol ffyrdd o ail-ddychmygu ein gorffennol a'n dyfodol. Darganfyddwch mwy am y rhaglen llawn yma.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi