
Gweithdy’n dechrau am 7pm
Ymunwch â ni i wneud print sgrin mewn gweithdy ymarferol o dan arweiniad yr artist Jude Lau o Printhaus. Gydag ysbrydoliaeth o sioe Leo Robinson, The Infinity Card, bydd Jude yn eich tywys drwy’r broses o haenu stensiliau wedi’u torri â llaw ac arbrofi gydag inciau gwahanol liw i greu eich printiau mandala unigryw eich hunan.
I oedolion dros 18 oed. Yn addas ar gyfer dechreuwyr. Bydd yr holl offer a deunyddiau yn cael eu darparu.
Lleoliad: Caffi Bar, cwrdd y tu allan i’r Oriel.