
Denmarc | 2022 | 49’ | cynghorir 18 | Grace Ndiritu
Mae Becoming Plant yn dilyn chwe dawnsiwr sy’n cymryd rhan mewn arbrawf grŵp therapiwtig gyda chyffur seicedelig o’r enw ‘yr Athro Aur’, gan ‘fyw’ gyda’i gilydd dros dro ar y safle diwydiannol dadfilwrol. Wrth iddyn nhw brofi ymwybyddiaeth y planhigyn a phresenoldeb ei gilydd, maen nhw’n perfformio coreograffi, gan gysoni eu cyrff noeth gyda’i gilydd a gyda’r olion pensaernïol, gyda thrac sain gan yr artist Gaika. Mae’r ffilm yn gwasanaethu fel catalydd i drafod materion cymdeithasol a pherthnasol fel gwyddoniaeth, ysbrydolrwydd, seiciatreg, iachâd, gofal iechyd, a phroblemau trawma ac iselder casgliadol o ganlyniad i fyw yn oes Cyfalafiaeth Hwyr.
+ Cyflwyniad gan Sim Panaser, Curadur (Celf weledol)
Mae'r ffilm yma yn rhan o'r Rhaglen Digwyddiadau: The Infinity Card ac wedi'i ddewis yn arbennig i gyd-fynd ag arddangosfa unigol Leo Robinson. Mae'r gyfres o ffilmiau i'ch trochi mewn Affroddyfodliaeth, arferion defodol, amser aflinol a chyflyrau seicolegol wedi'u newid – gan ddatgan gwahanol ffyrdd o ail-ddychmygu ein gorffennol a'n dyfodol. Darganfyddwch mwy am y rhaglen llawn yma.
Sad 10 Rhag 2022 - Sul 16 Ebr 2023