
Cernyw | 2022 | 96’ | 15 | Mark Jenkin | Mary Woodvine, Edward Rowe
Ar ynys anghyfannedd oddi ar arfordir Cernyw ym 1973, mae arsylwadau dyddiol gwirfoddolwr bywyd gwyllt o flodyn prin yn cymryd tro tywyll i’r rhyfedd a’r metaffisegol, gan ei gorfodi i gwestiynu beth sy’n wir a beth sy’n hunllef. Ydy’r dirwedd nid yn unig yn fyw, ond yn teimlo teimladau? Wedi’i saethu ar stoc ffilm 16mm, dyma ffilm ddilynol i Bait sy’n plygu’r meddwl
A Field in England
Prydain | 2013 | 87’ | 15 | Ben Wheatley
Reece Shearsmith, Michael Smiley, Julian Barratt, Ryan Pope
Yn yr 17eg ganrif, yng nghanol Rhyfel Cartref Lloegr, mae grŵp o encilwyr yn ffoi o’r frwydr drwy gae o ordyfiant. Maen nhw’n cael eu dal gan alcemydd, ac mae’r dynion yn gorfod wynebu’r egni pwerus yn y ddaear. Ffilm sy’n dathlu ei deng mlwyddiant; saethwyd yr archwiliad yma o’r tir o dan ein traed a’r hanes tywyll sydd ynddo gan Laurie Rose mewn du a gwyn hyfryd.
“Syfrdanol o hyfryd ac yn wirioneddol anghyfforddus… mae arswyd-werin y saithdegau yn ddylanwad allweddol. Ond hefyd yn ddylanwad mae ffilmiau arbrofol Maya Deren a Stan Brakhage”
Tom Huddleston, Time Out
The Miracle on George Green
Prydain | 2022 | 12’ | Onyeka Igwe
Wedi’i swyno fel plentyn gan Ryfel Cartref Lloegr, y Gwastatawyr a’r Cloddwyr, aeth Onyeka Igwe ati i greu’r ffilm fer hardd yma. Yn deillio o fynd am dro drwy Gorsydd Hackney yn 2020, dyma archwiliad o grasfa wleidyddol, rhamantiaeth natur, a hiraeth am y cysyniad o Dir Comin.
https://lux.org.uk/work/the-miracle-on-george-green/
Herbaria
Yr Ariannin | 2022 | 83’ | cynghorir 15 | Leandro Listorti
Archwiliad o gadwraeth ffilm a botanegol; mae’r ffilm ysgrif yma’n manylu ar waith trefnus a phenderfynol archifwyr. Dyma gofnod o lafur aruthrol dosbarthu a chyflwyno fel ffurfiau o gynrychiolaeth a chof, a gwelwn y cymhellion artistig a gwleidyddol ym mhob maes o brosesau archifol a sut mae’r ddau fyd yn cyd-blethu, gan oresgyn dinistr amser.
“Mae’n cyflawni undod amser a lle... mae Herbaria yn dweud nad yw hanes sinema yn llinol, ond yn hytrach ei fod mor gylchol â natur.”
Vladlan Petkovic, Cineuropa
The Gleaners and I
Ffrainc | 2000 | 79’ | PG | Agnès Varda | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg
Gan gymryd ysbrydoliaeth o baentiad 1867 Jean-François Millet, mae Agnès Varda yn siarad â phobl sy’n fforio. Arfer sydd wedi’i ymgorffori yng nghyfansoddiad Ffrainc, o gnydau dros ben yn y caeau, pysgod sy’n dod i’r lan ar ôl storm, i sbwriel mewn biniau; mae’r ‘cribinwyr’ yma’n ail-greu yn ddiarwybod weithgareddau cymunedol y canrifoedd a fu. Ffilm ddogfen fyfyriol gyda naratif chwilfrydig a llachar a llygad graff y gwneuthurwr ffilm arloesol Varda.
“Yn ei fframiau, gwelwn empathi, dawn, chwilfrydedd, ffraethineb, barddoniaeth ac angerdd am fywyd [Varda]: popeth mae hi wedi’i gasglu o fywyd llawn cariad a ffilmiau.”
Michael Wilmington, Chicago Tribune
Foragers
UDA | 2022 | 64’ | cynghorir 12A | Jumana Manna
Wedi’i saethu yn Ucheldiroedd Golan, Galilea a Jerwsalem, mae’r cymysgedd yma o ffilm archifol, dogfen a ffuglen yn cyfleu’r arfer o fforio am blanhigion gwyllt y gellir eu bwyta yn y tiriogaethau dadleuol. Mae cyfyngiadau’n rhwystro pobl rhag casglu za’atar ac akkoub tebyg i artisiog, gan arwain at ddirwyon a gorchmynion llys i unrhyw un sy’n cael eu dal yn casglu’r planhigion brodorol yma. I Balestiniaid, mae’r gyfraith yn eu dieithrio ymhellach o’u tir; tra bod cynrychiolwyr gwladwriaeth Israel yn mynnu bod dyletswydd i warchod am resymau ecolegol a gwyddonol. Wedi’i hadrodd â hiwmor sych a chyflymder tyner, mae’r ffilm yma’n cyfleu’r llawenydd a’r wybodaeth sydd wedi’i hymgorffori yn y traddodiadau yma, gan godi cwestiynau am wleidyddiaeth difodiant.
Embrace of the Serpent
Colombia | 2015 | 119’ | 12 | Ciro Guerra | Sbaeneg, Portiwgaleg gydag isdeitlau Saesneg
Nilbio Torres, Antonio Bolívar
Ar ddechrau’r 1900au, mae Karamakate, siaman ifanc yn Amazon Colombia a goroeswr olaf ei bobl, yn helpu fforiwr sâl o’r Almaen a’i dywysydd lleol i chwilio am blanhigyn iachaol prin. Wedi’i ysbrydoli gan ddyddiaduron dau archwiliwr go iawn, mae Guerra yn plethu’n ffuglennol eu profiadau wrth i’r teithwyr brofi canlyniad erchyll y ffyniant rwber yn jyngl De America.
“Ro’n i wedi fy swyno a fy llesmeirio’n llwyr.”
Mark Kermode, Observer
Silent Running
UDA | 1972 | 89’ | PG | Douglas Trumbull | Bruce Dern
Ar ôl i bob bywyd botanegol ddod i ben ar y Ddaear, mae’r ecolegydd Freeman Lowell yn cadw tŷ gwydr ar orsaf ofod er mwyn cadw gwahanol blanhigion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gyda chymorth tri robot a chriw bach o bobl ddynol, mae Lowell yn gwrthryfela pan mae’n cael gorchymyn i ddinistrio’r tŷ gwydr er mwyn cario cargo, penderfyniad sy’n peri iddo anghytuno â phawb ond ei gyfoedion mecanyddol. Mae Lowell a’i robotiaid yn cael eu gorfodi i wneud unrhyw beth sydd ei angen i gadw eu gwyrddni gwerthfawr yn fyw.
“Mae’n cyflwyno neges ecolegol gyda hiwmor a dychymyg... hynod deimladwy”
Phillip French, The Guardian
Annihilation
UK | 2018 | 115’ | 15 | Alex Garland | Natalie Portman, Jennifer Jason Leigh
Ar ôl i'w gŵr ddychwelyd fel dyn newydd o alldaith filwrol gyfrinachol i'r Shimmer, ardal ddirgel o estroniaid lle nad yw deddfau natur yn berthnasol, mae Lena'n dod yn aelod o dîm dethol o wyddonwyr sy'n gobeithio dysgu beth yw cyfrinachau'r ardal. Mae Annihilation wedi'i haddasu'n fras o drioleg Southern Reach gan Jeff VanderMeer, ac mae'n cynnwys sgôr rythmig ac iasol gan Geoff Barrow.
Minari
UDA | 2020 | 115 mun | 12A (i’w chadarnhau) | Lee Isaac Chung | Corëeg gydag isdeitlau Saesneg
Steven Yeun, Yuh-jung Youn
Mae teulu Coreaidd-Americanaidd yn symud i gefn gwlad Arkansas i chwilio am eu Breuddwyd Americanaidd eu hunain. Yn ffermwyr dibrofiad, mae Jacob a Monica Yi yn benderfynol o dyfu cnwd minari a gwreiddio’u teulu’n fwy llawn yn niwylliant tir sy’n gallu bod yn elyniaethus ar adegau. Gyda chymorth cymydog ecsentrig a mam slei a rheglyd Monica, ymhlith ansefydlogrwydd a heriau’r bywyd newydd yma, mae’r teulu’n dysgu sut i fod yn wydn a chreu cartref. Stori dyner, wedi’i hysbrydoli gan dad Lee Isaac Chung ac yn cynnwys perfformiad sydd wedi ennill Oscar gan Yuh-jung Youn.
“Drama hudolus am ffydd a ffermio... wedi’i hybu gan berfformiadau arbennig, delweddau disglair, a sgôr gerddorol hyfryd.”
Mark Kermode, Observer
Mother!
UDA | 2017 | 121’ | 18 | Darren Aronofsky
Jennifer Lawrence, Javier Bardem
Mae menyw ifanc yn treulio’i dyddiau’n adnewyddu plasty gwledig y mae’n byw ynddo gyda’i gŵr. Pan fydd dieithryn yn curo ar y drws un noson, mae’n dod yn westai annisgwyl yn eu cartref. Yn nes ymlaen, mae ei wraig a’i ddau o blant hefyd yn cyrraedd ac yn croesawu’u hunain yno. Daw’r braw’n fuan pan mae’r wraig bryderus yn ceisio deall pam fod ei gŵr yn ymddangos mor gyfeillgar a charedig gyda phawb ond hi. Drama gyffelybiaeth ddwys, ddoniol a thywyll am gwymp dyn.
“Mewn hunllef baranoiaidd sy’n dechrau fel Repulsion gan Polanski ac sy’n diweddu’n debycach i Apocalypse Now, mae [Aronofsky] yn gwthio sinema prif ffrwd warthus i’r pen – a’r tu hwnt... profiad penfeddwol a gwaradwyddus.”
Mark Kermode, Observer
Little Joe
Prydain | 2019 | 105’ | 12A | Jessica Hausner
Emily Beecham, Ben Whishaw
Mae Alice, sy'n wyddonydd ac yn fam sengl, yn ymroddedig i fridio planhigion, ac mae wrthi'n datblygu rhywogaeth newydd. Mae hi wedi creu blodyn arbennig iawn, sy'n nodedig nid yn unig am ei harddwch, ond hefyd am allu therapiwtig: os gofalir amdano'n iawn, mae'r planhigyn yn ysgogi hapusrwydd. Wedi'i chyffroi gan ei darganfyddiad, mae Alice yn dod â'r planhigyn adref at ei mab, Joe, sydd yn ei arddegau. Wrth iddo dyfu, mae amheuaeth Alice yn tyfu hefyd - efallai nad yw ei chreadigaeth newydd mor ddiniwed ag y mae ei ffugenw'n awgrymu. Stori dylwyth teg fodern gythryblus.