
10 & 11 Mehefin
11-5yp
Mae’r Print Wagon a The Printhaus, yn cyflwyno eu digwyddiad newydd sbon, sef GŴYL PRINTIEDIG.
“Rydyn ni bob amser yn meddwl am ffyrdd newydd o rannu a dathlu print gyda’r gymuned, ac rydyn ni wedi dod â’n pennau ynghyd i greu’r antur fwyaf eto.” (Aidan - Print Wagon)
Pam?
Mae diwylliant printio Cymru’n gryf. Mae hygyrchedd y gelfyddyd yn apelio i ystod eang o wneuthurwyr ac mae llawer o sefydliadau print profiadol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
Ein nod yw adeiladu ar y diwylliant presennol sydd ganddo’n ni yn y de drwy greu fforwm newydd i artistiaid, sefydliadau ac addysgwyr tebyg. Bydd yr awyrgylch gŵyl yn galluogi pobl i wneud cysylltiadau, rannu adnoddau, a rhoi chyfle a sylfaen i bawb gael cyfle a chyfranogi.
“Mae printio’n addas ar gyfer hygyrchedd – does dim rhaid i chi allu tynnu llun i greu print, na bod yn greadigol iawn hyd yn oed. Dyna pam hwn yw’r gelfyddyd berffaith i’w rhannu gyda phobl sydd â lefelau gallu amrywiol, plant, a hyd yn oed eich mamgu!”. (Tom - y Printhaus)
Ar y diwrnod
Bydd ‘llwybr gwneuthurwyr’ o stondinau artistiaid print yn gwau drwy’r adeilad. Gallwch gymryd eich amser i dorchi llewys a rhoi cynnig ar y gweithgareddau printio, o risograff i brintio sgrin, a phopeth rhwng y ddau. Mentrwch i stiwdios Printhaus i weld arddangosiadau creu printiau byw, neu gwrandewch ar un o’r sgyrsiau gan y siaradwyr gwadd arbennig.
Bydd y Tywyswyr Print ar hyd y lle drwy’r penwythnos hefyd - yn wynebau cyfeillgar i’ch cyfeirio chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ble hoffech fynd (mae sïon efallai y byddan nhw’n gwisgo i fyny hyd yn oed).