Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Mini Cardiff Animation Festival 2023: Industry Masterclass: Aardman's Very Small Creatures

Mini Cardiff Animation Festival 2023: Industry Masterclass: Aardman's Very Small Creatures PG

Gwen 24 Maw

Mae'r animeiddiwr a chyfarwyddwr Lucy Izzard yn ymuno â Mini-CAF yn bersonol i rannu ei thaith o gyfarwyddo ei chyfres gyntaf gydag Aardman.

 

Mae The Very Small Creatures yn gyfres cyn-ysgol gan Aardman, a gomisiynwyd gan Sky Kids. Mae’r gyfres yn dilyn anturiaethau pum creadur clai tebyg i blant bach sy’n archwilio ardal chwarae plentyn pan nad oes neb o gwmpas – gan ddysgu am eu byd corfforol, eu hunain a’i gilydd, trwy chwilfrydedd, chwarae a llond gwlad o hwyl.

 

Ymunwch â ni a mynychwyr eraill yr ŵyl cyn y sgwrs 1-2pm yng Nghaffi-Bar Chapter am fwydydd bach iawn!

 

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Animeiddio Byr Caerdydd, a gynhelir 24–25 Mawrth 2023. Am y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth ewch i cardiffanimation.com.

 

 

Prisiau:

£6 / £4 con / included in CAF pass | cynnwys gyda pass CAF

Tocynnau ac Amseroedd