Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Meet the Team

Cwrdd â’r Tîm

Cwrdd â’r Tîm, yng Nghyntedd y Sinema. Dewch i gwrdd â’r tîm ar ddydd Iau cyntaf bob mis rhwng 2pm a 4pm.

 

Galwch heibio am sgwrs anffurfiol dros baned, a manteisiwch ar y cyfle i ddod i nabod ein tîm. Bydden ni wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno yn ein sgyrsiau creadigol am y rhaglen sydd ganddon ni yma – dywedwch wrthon ni beth rydych chi’n ei hoffi ac yn ei gasáu, a beth hoffech chi weld mwy ohono! Rydyn ni hefyd yn eich annog i gynnig syniadau, sôn wrthon ni am brosiect sydd gennych chi ar y gweill, gofyn am gyngor ar gymorth ariannu, neu gamau nesaf eich gyrfa.

 

Rydyn ni’n awyddus i ddweud helo wyneb yn wyneb, i chi gael dod i nabod y wynebau tu ôl i’r enwau, ond rydyn ni hefyd yn hapus i drefnu sgwrs drwy Zoom os na allwch chi ddod i’r safle.

Does dim angen archebu lle i ymuno yn y sgwrs, dim ond galw heibio a dweud helo. 

 

Mae tîm y rhaglen yn cynnwys:

Kit Edwards, Curadur Perfformiadau

Hannah Firth, Cyd-gyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Artistig

Molly Harcombe, Cynorthwyydd Rhaglen

Sim Panaser, Curadur y Celfyddydau Gweledol

Arron Singh, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol

Claire Vaughan, Rheolwr Rhaglen Sinema

Bydd o leiaf dau aelod o’r tîm rhaglennu ar gael bob mis yn ein Cyntedd y Sinema, ac ar ôl yr haf byddwn ni hefyd yn mynd â Cwrdd â’r Tîm allan i’n cymuned leol. 

Prisiau:

Free, no need to book | Am ddim, dim gofynnol archebu

Tocynnau ac Amseroedd

  • Iau 5 Hyd , 2:00 yh
  • Iau 2 Tach , 2:00 yh
  • Iau 7 Rhag , 2:00 yh
  • Iau 4 Ion 2024 , 2:00 yh
  • Iau 1 Chw 2024 , 2:00 yh
  • Iau 7 Maw 2024 , 2:00 yh