
Arddangosfa grŵp a rhaglen gyhoeddus yw ‘Call the Waves’, sy’n archwilio cysylltiadau agos rhyng-gysylltiedig gyda gwahanol gyrff dŵr. Drwy ddyfrffyrdd tanddaearol, ffynhonnau, afonydd a moroedd, mae’r artistiaid, y cerddorion a’r haneswyr yn yr arddangosfa yma’n cynnig adennill caneuon a straeon, hanes a dyfodol.
Mae ‘Call the Waves’ yn dilyn y ffyrdd niferus y gallwn feddwl gyda dŵr a dysgu ganddo, yn deillio o ymchwiliadau i’r trawsnewidiadau a’r ddeinameg sy’n siapio ein hymdeimlad o berthyn. Mae’r arddangosfa yn dal adleisiau dadleoli ac echdynnu sydd wedi’u cydblethu â gwladychiaeth a moderneiddio. Ar yr un pryd, mae’n galw ar y tonnau niferus o gofio, a’r sianeli tanddaearol o wrthsefyll sy’n siapio ac yn rhannu posibiliadau amgen.
Gosodwaith ffilm gan Kandace Siobhan Walker yw Seine. Gan edrych ar wehyddu rhwyd bysgota seine, sef arddull y rhwyd mae tad yr artist yn ei greu ar Ynys Sapelo oddi ar arfordir Georgia (UDA), mae Kandace yn archwilio ffyrdd o ddychwelyd at wybodaeth frodorol drwy gysylltu â thraddodiadau hynafol. Mae Seine yn edrych ar ddŵr fel safle gwrthsafiad ac adfywiad, a’r lan yn lle ar gyfer bwrw allan a galw i mewn.
Cyfres o luniadau ar ffabrig gan Noureddine Ezarraf yw Aghmat. Mae’r corff yma o waith yn ystyried sut mae ‘moderneiddio’ gwladychol rheoli dŵr wedi diwygio ffyrdd amrywiol o berthyn ym Moroco. Ar ffabrigau wedi’u lliwio â phomgranad, ewcalyptws, derw a chnau Ffrengig sydd wedi’u tyfu’n lleol, mae Noureddine yn astudio dau gorff dŵr ac yn haenu’r ffyrdd maen nhw wedi siapio’r tir, amaethyddiaeth, ac arferion dŵr dros amser.
Gan fenthyca gan rinweddau sonig sibrydion, mae Bint Mbareh yn adeiladu siambr feddal i wrando ar gyfrinachau ynddi – ac o bosib eu dweud nhw hefyd. Mae Stellar Footprints yn defnyddio systemau amaethyddol Palesteina a arweinir gan astroleg i archwilio sut mae’r awyr yn argraffu ei chyfrinachau ar y tir, a sut mae’r cyfrinachau yna’n ymddangos yn y dyfodol, gan ddisodli syniadau cyfoes o ‘gynaliadwyedd’ gyda gwahoddiadau brodorol i ddad-wneud amser llinol.
Gan ddefnyddio’r syniad o diriogaethau gofal, mae SURGE gan Fern Thomas yn edrych ar hanesion ffiniau esgobaethau gan estyn allan dros y môr. Gan godi o destun barddonol sy’n galw ar ddyfroedd cydsynio, dyfroedd aflonyddwch, dyfroedd dymuniad, dyfroedd yr hyn a gollwyd, dyfroedd dad-wneud, dyfroedd sefydlogrwydd, a dyfroedd gweledigaethau doeth, mae’r gwaith yn chwilio am ddoethineb hynafol y dyfodol sydd i’w gael ym mhob dŵr. Mae gwahoddiad i chi ddynesu at y dŵr fel pe bai’n oracl.
Gosodwaith gan Alia Mossallam yw Rawy al-Anhar (Torri Syched Afonydd), sy’n olrhain sut mae straeon yn teithio drwy amser, drwy gerddoriaeth, a thrwy’r ffrydiau o ddŵr sy’n ein cysylltu. Gan archwilio hanesion wedi’u hymyleiddio Argae Uchel Aswan, a ddadleolodd dros 100,00 o bobl Nubia, mae Rawy al-Anhar yn tynnu ein sylw at yr hanes yma drwy stori un teulu a’r cyrff dŵr maen nhw’n mynd drwyddynt.
Mae Maya Al Khaldi yn dilyn trywydd drwy amser a chof i greu sing for them to see. Gan weithio gyda defodau wedi’u dadleoli a threftadaeth gerddorol wasgaredig, mae Maya wedi ailffurfio’r caneuon a ddysgodd gan geidwad cysegrfa Maqam al-Nabi Ayoub. Roedd y ffynnon, sydd bellach wedi’i hamgylchynu gan allbyst milwrol Israel, unwaith yn ffynhonnell ar gyfer golchi, yfed a iacháu, ac yn sing for them to see mae Maya’n ail-ddychmygu’r cyfnod pan oedd y dŵr yn llifo.
Mae Call the Waves wedi’i gyd-guradu gan QANAT a SWAY, a gynhelir ar y cyd gan Francesca Masoero, Louise Hobson, a Shayma Nader. Mae’r arddangosfa’n rhan o raglen aml-safle, wedi’i lleoli rhwng Marrakech, y Barri, Ramallah a Chaerdydd. Comisiynwyd yr arddangosfa yma gan Chapter, a chefnogir y prosiect gan Gyngor y Celfyddydau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Gwrandewch i taflen sain Call the Waves yma
Bywgraffiadau
Hanesydd diwylliannol, addysgwr ac awdur sy’n byw ym Merlin yw Alia Mossallam. Mae gan Alia ddiddordeb mewn caneuon sy’n adrodd straeon, a straeon sy’n adrodd profiadau pobl y tu ôl i’r digwyddiadau sy’n creu Hanes y Byd. Bu Alia’n addysgu yn Sefydliad Cairo ar gyfer y Gwyddorau a’r Celfyddydau Rhyddfrydol ac yn y Brifysgol Rydd ym Merlin, a hi sefydlodd Weithdai Hanes ‘Ihky ya Tarikh’. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei llyfr cyntaf fel Cymrawd Rhaglen EUME yn y Fforwm Astudiaethau Trawsranbarthol ym Merlin.
Ymchwilydd sain sy’n byw yn Llundain yw Bint Mbareh. Dechreuodd gwaith Bint Mbareh gyda cherddoriaeth pan fu’n ymchwilio i ganeuon sy’n gwahodd y glaw ym Mhalestina, ac mae’n parhau i weithio gyda’r syniadau o blygu amser, adeiladu, a herio syniadau trefedigaethol ymsefydlwyr o amser llinol. Yn ddiweddar, mae wedi perfformio yn Biennale Mardin (2022), Gŵyl Read the Room Mophradat (2022) a symposiwm Hoda Siahtiri ar Golled a Gwydnwch - No Body’s Body (2022).
Artist o Gymru sy’n byw yn Abertawe yw Fern Thomas. Ym maes Cerflunio Cymdeithasol mae arfer Fern, gan ganolbwyntio ar hanesion wedi’u hail-ddychmygu, defodau, gwybodaeth ar sail lle, ac addysgeg amgen. Ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor y Celfyddydau a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn Artist Preswyl gydag Ancient Connections. Cyflwynodd Fern Spirit Mirror yn ddiweddar, sef arddangosfa unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.
Awdur a gwneuthurwr ffilm Gullah-Geechee Jamaicaidd a anwyd yng Nghanada yw Kandace Siobhan Walker. Mae’n olygydd i bath magg. Cafodd Wobr Eric Gregory ac enillodd Wobr y Bardd The White Review yn 2021. Bydd ei phamffled farddoniaeth gyntaf, Kaleido, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Bad Betty yn 2022. Cafodd ei magu yng Nghymru ac mae’n byw yn Llundain. Caiff ei chynrychioli gan Abi Fellows yn The Good Literary Agency.
Artist, cerddor a chyfansoddwr o Balestina yw Maya Al Khaldi, sy’n byw yn Jerwsalem. Mae gwaith Maya’n archwilio llais a cherddoriaeth ddoe a heddiw, gan weithio gyda deunyddiau archifol i ddychmygu’r dyfodol. Mae’n addysgu theori cerddoriaeth a llais yn conservatoire genedlaethol Edward Said, a gyda phrosiect Terre Des Hommes yn Jerwsalem, Palesteina. Rhyddhaodd ei halbwm unigol gyntaf, Other World, yn ddiweddar.
Artist, traethodydd, a bardd bricoleur yw Noureddine Ezarraf, sy’n byw ac yn gweithio ym Marrakech, Moroco. Drwy arfer amlddisgyblaethol a hybrid, mae ei waith yn amrywio o ymchwil i’r sefydliadau sy’n rhyng-gysylltu pensaernïaeth a chynefineg gyda’r wleidyddiaeth sydd wedi’i gwreiddio mewn gwrando, i eiconoleg a rhethreg twristiaeth fel gor-wladychiad o ofodau a thiriogaethau, yn enwedig yng nghyd-destun Moroco. Mae Noureddine hefyd yn ysgrifennu am ddyfodoliaeth Amazigh.
Prosiect cydweithredol yn y Barri yw SWAY, sydd wedi’i gysylltu â dyfroedd gorlanwol y dref ar arfordir y de. Rhwng yr aber a’r môr, mae Sway yn cynnig sgyrsiau casglebol ar gysylltiadau, ymlyniadau, cymuno, a chreu casglebau ar draws y tirlun lleol. Gyda llanwau mawr mis Mawrth 2022, dechreuodd SWAY groesawu artistiaid, ymchwilwyr, awduron a phreswylwyr i ddeialogau amlddisgyblaethol, rhaglenni cyhoeddus, a gweithgareddau eraill mewn amser hydrolegol wrth y lan. Caiff Sway ei guradu gan Louise Hobson, curadur annibynnol sy’n byw yn y Barri.
Llwyfan casglebol yw QANAT sy’n archwilio gwleidyddiaeth a barddoniaeth y dŵr er mwyn myfyrio ynghylch, a gweithredu ar, ffurfweddau cyd-destunol y tir comin ym Moroco a’r tu hwnt. Gan ddefnyddio gwaddol system gynaeafu dŵr qanat (neu khettara) sydd wrth sylfaen Marrakech, mae QANAT yn ceisio datblygu dychymyg casglebol i edrych ar ffurfweddau gofodol ac epistemolegol newydd ar gyfer y ddinas. Yn cyd-fynd â hyn, mae’n estyn allan at weithredoedd a myfyrdodau soniarus er mwyn dysgu gan anawsterau lleol eraill, a’u gweu ynghyd i batrymau trawswladol o undod a chyfnewid. Dechreuwyd QANAT yn LE 18 yn 2017 gan Francesca Masoero, sy’n drefnydd diwylliannol, yn guradur ac yn ymchwilydd ym Marrakech. Artist gweledol, curadur annibynnol ac ymchwilydd yn Ramallah yw Shayma Nader. Mae hi wedi bod yn cydweithio gyda QANAT ers 2017.
Mae Oriel Chapter yn ofod celfyddydol rhyngwladol sy'n comisiynu, yn cynhyrchu ac yn cyflwyno prosiectau yn y celfyddydau gweledol a byw. Rydym yn cynnig rhaglen uchelgeisiol, heriol ac amrywiol o arddangosfeydd, cyfnodau preswyl, comisiynau a digwyddiadau gan artistiaid sefydledig o Gymru ac o bedwar ban byd.
Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.