
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ganslo oherwydd salwch.
Perfformiad:SURGE, Fern Thomas
Nos Gwener 30 Medi, 7pm
Oriel Chapter
Yn SURGE, mae Fern Thomas yn galw ar ddoethineb hynafol y dyfodol sydd i’w gael ym mhob dŵr, ac yn y perfformiad newydd yma bydd Fern yn rhannu darlleniad sy’n teithio ymhellach drwy ddyfroedd cydsynio, dyfroedd aflonyddwch, dyfroedd dymuniad, dyfroedd yr hyn a gollwyd, dyfroedd dad-wneud, dyfroedd sefydlogrwydd, a dyfroedd gweledigaethau doeth.
Llun: Kirsten McTernan
Artist o Gymru sy’n byw yn Abertawe yw Fern Thomas. Ym maes Cerflunio Cymdeithasol mae arfer Fern, gan ganolbwyntio ar hanesion wedi’u hail-ddychmygu, defodau, gwybodaeth ar sail lle, ac addysgeg amgen. Ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor y Celfyddydau a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn Artist Preswyl gydag Ancient Connections. Cyflwynodd Fern Spirit Mirror yn ddiweddar, sef arddangosfa unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.
Y digwyddiad hwn yw rhan o'r rhaglen gyhoeddus Call the Waves. Arddangosfa grŵp a rhaglen gyhoeddus yw Call the Waves, sy’n archwilio cysylltiadau agos rhyng-gysylltiedig gyda gwahanol gyrff dŵr. Mae Call the Waves yn dod â gwaith newydd ynghyd gan yr artistiaid, y cerddorion, a’r haneswyr Alia Mossalam, Bint Mbareh, Fern Thomas, Kandace Siobhan Walker, Maya Al Khaldi a Noureddine Ezarraf. Mae’r prosiect wedi’i gyd-guradu gan SWAY a QANAT, a gynhelir ar y cyd gan Francesca Masoero, Louise Hobson a Shayma Nader. Ymweliad Call the Waves yn Oriel Chapter dydd Mawrth i ddydd Sul, 11yb - 5yp.