Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

CALL THE WAVES: Curators Tour
Sold Out

CALL THE WAVES: Taith gyda'r Curaduron

Llun 1 Ion 0001 - Gwen 30 Medi 2022

Gyda Louise Hobson (SWAY), Francesca Masoero (QANAT) a Shayma Nader (QANAT)

Llun: Kirsten McTernan

Prosiect cydweithredol yn y Barri yw SWAY, sydd wedi’i gysylltu â dyfroedd gorlanwol y dref ar arfordir y de. Rhwng yr aber a’r môr, mae Sway yn cynnig sgyrsiau casglebol ar gysylltiadau, ymlyniadau, cymuno, a chreu casglebau ar draws y tirlun lleol. Gyda llanwau mawr mis Mawrth 2022, dechreuodd SWAY groesawu artistiaid, ymchwilwyr, awduron a phreswylwyr i ddeialogau amlddisgyblaethol, rhaglenni cyhoeddus, a gweithgareddau eraill mewn amser hydrolegol wrth y lan. Caiff Sway ei guradu gan Louise Hobson, curadur annibynnol sy’n byw yn y Barri.

Llwyfan casglebol yw QANAT sy’n archwilio gwleidyddiaeth a barddoniaeth y dŵr er mwyn myfyrio ynghylch, a gweithredu ar, ffurfweddau cyd-destunol y tir comin ym Moroco a’r tu hwnt. Gan ddefnyddio gwaddol system gynaeafu dŵr qanat (neu khettara) sydd wrth sylfaen Marrakech, mae QANAT yn ceisio datblygu dychymyg casglebol i edrych ar ffurfweddau gofodol ac epistemolegol newydd ar gyfer y ddinas. Yn cyd-fynd â hyn, mae’n estyn allan at weithredoedd a myfyrdodau soniarus er mwyn dysgu gan anawsterau lleol eraill, a’u gweu ynghyd i batrymau trawswladol o undod a chyfnewid. Dechreuwyd QANAT yn LE 18 yn 2017 gan Francesca Masoero, sy’n drefnydd diwylliannol, yn guradur ac yn ymchwilydd ym Marrakech. Artist gweledol, curadur annibynnol ac ymchwilydd yn Ramallah yw Shayma Nader. Mae hi wedi bod yn cydweithio gyda QANAT ers 2017.

Y digwyddiad hwn yw rhan o'r rhaglen gyhoeddus Call the Waves. Arddangosfa grŵp a rhaglen gyhoeddus yw Call the Waves, sy’n archwilio cysylltiadau agos rhyng-gysylltiedig gyda gwahanol gyrff dŵr. Mae Call the Waves yn dod â gwaith newydd ynghyd gan yr artistiaid, y cerddorion, a’r haneswyr Alia Mossallam, Bint Mbareh, Fern Thomas, Kandace Siobhan Walker, Maya Al Khaldi a Noureddine Ezarraf. Mae’r prosiect wedi’i gyd-guradu gan SWAY QANAT, a gynhelir ar y cyd gan Francesca Masoero, Louise Hobson a Shayma Nader. Ymweliad Call the Waves yn Oriel Chapter dydd Mawrth i ddydd Sul, 11yb - 5yp.

Prisiau:

All Call the Waves events are free, but booking is essential. Find more information and links below. 

Mae’r holl ddigwyddiadau Call the Waves am ddim, ond mae’n rhaid archebu. Mae rhagor o wybodaeth a dolenni isod.  


Listen to the Call the Waves audio flyer here.

Gwrandewch i taflen sain Call the Waves yma.

Tocynnau ac Amseroedd