
Mae GOFOD PRINT Y BOBL yn rhan o ŴYL PRINTED! Arddangosfa i ddathlu gwaith creu print a chymunedau Caerdydd.
Yn ystod y gwanwyn, cynhalion ni gyfres o weithdai printio gyda phum canolfan gymunedol, gan weithio gyda phobl o bob oedran ac ethnigrwydd. I lawer o’r bobl yma, y gweithdai yma oedd eu profiad cyntaf yn creu printiau. Mae’r arddangosfa yn dangos y gwaith, ac mae’n dyst i’r ffaith bod printio fel ffurf ar gelfyddyd yn addas i bawb.
Mae GOFOD PRINT Y BOBL yn cynnwys:
Sychbwynt gyda Bill Chambers – CANOLFAN GYMUNEDOL CATHAYS
Gan ddefnyddio planhigion a blodau fel man cychwyn, archwiliodd y cyfranogwyr ffurfiau naturiol drwy’r broses ysgythru syml a hanesyddol yma. Gan ddilyn llun neu ffotograff ac arysgrifio llinellau yn uniongyrchol ar blatiau plastig tryloyw. Roedd hyn yn ffordd ddelfrydol o ddysgu celfyddyd printio intaglio drwy dechneg sychbwynt.
Printio leino gyda Print Wagon (Aidan Saunders) – PAFILIWN GRANGE
Bu Aidan yn dysgu egwyddorion sylfaenol torri leino. Dangosodd i’r cyfranogwyr sut i gerfio, printio ac arbrofi er mwyn creu eu printiau eu hunain.
Stampio Rwber gyda ZEEL – CANOLFAN DATBLYGIAD CYMUNEDOL DE GLAN YR AFON (SRCDC)
Aeth Zeel â’r cyfranogwyr drwy’r broses o gyd-greu printiau stamp rwber enfawr, gan ddod â bywyd i wlad ddychmygol lle gallwch “wneud fel y mynnwch chi, iwtopia-nonsens!”.
Printio testun gyda Nigel Draper o Amplifier Press – CYMDEITHAS TAI TAF
Cafodd y cyfranogwyr eu cefnogi a’u hannog i drafod lle maen nhw’n byw a nodi tri gair sy’n disgrifio orau sut maen nhw’n teimlo am eu cartref a’u cymdogaeth. Yna, aeth Nigel â nhw drwy’r broses o deiposod a phrintio eu harchwiliadau.
Lliwio naturiol gyda Zoe Evans o ‘Prints by Nature’ – GERDDI’R RHEILFFORDD
Roedd y gweithdy yma’n trafod hanfodion creu eich inciau printio sgrin eich hunan, a’r arferion gorau wrth eu defnyddio a’u cadw, a’u rhoi ar bapur a ffabrig. Fe’i cynhaliwyd yng Ngerddi’r Rheilffordd yn Sblot. Dysgodd y cyfranogwyr ddull ecogyfeillgar a chynaliadwy o brintio sgrin.