Performance

Theatr Al Harah: Dod â llais i’r theatr a’r celfyddydau ym Mhalesteina

  • 2h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 30m

Ymunwch â ni mewn sgwrs gyda Marina Barham, Cyfarwyddwr Cyffredinol Theatr Al Harah ym Methlehem, Palesteina. Bydd Marina’n cynnig llais o’r sector theatr a chelfyddydau perfformio ym Mhalesteina drwy stori Theatr Al Harah a’i gwaith ar y Lan Orllewinol.

Gan siarad mewn lleoliadau ledled Prydain, bydd Marina’n rhannu am y sefyllfa bresennol ym Mhalesteina a’r rôl mae theatr yn ei chwarae wrth helpu plant, pobl ifanc a’r gymuned i oresgyn trawma. Bydd modd i gynulleidfa glywed yn uniongyrchol gan ymgyrchydd o Balesteina yn y sector diwylliannol, gyda’r gobaith o gydweithio a sefydlu partneriaethau newydd.


Ynglyn â'r artistiaid...

Marina Barham yw cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol Theatr Al-Harah, ac mae wedi bod yn weithredwr diwylliannol gweithgar ym Mhalesteina, y Dwyrain Canol ac Ewrop ers 1998. Roedd hi’n Llywydd ar Rwydwaith Celfyddydau Perfformio Palesteina yn 2019-2021, yn aelod bwrdd ac yn Gysylltydd Byd-eang 2021 i’r Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer y Celfyddydau Perfformio Cyfoes (IETM) ac yn Gymrawd ISPA a Seminar Byd-eang Salzburg.

Fel hyfforddwraig rheolaeth ddiwylliannol, ers 2006 mae hi wedi gweithio gydag Al Mawred Resource, Casgleb Tamasi, a Sefydliad Goethe. Mae hi hefyd wedi bod yn siarad mewn cynadleddau, gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol. Ochr yn ochr â chynhyrchu cynyrchiadau theatr, dros y 23 mlynedd diwethaf mae hi wedi rheoli teithiau rhyngwladol, rhanbarthol a lleol a Phrosiectau Euro Med, ac wedi curadu Gŵyl Theatr Ryngwladol Palesteina ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Gŵyl Stryd Yalla Yalla a Gŵyl Theatr Safle-Benodol Bethlehem ym Mhalesteina.

Mae Theatr Al Harah yn credu bod gan y theatr botensial i newid bywydau’r rhai sy’n creu gwaith theatr a’r rhai sy’n ei wylio. Mae’n creu gwaith cymhellol i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy’n heriol ond yn deimladwy, yn hygyrch, a bob amser yn onest. Mae’n teithio’n lleol, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol, gan gyrraedd gwersylloedd ffoaduriaid, pentrefi, dinasoedd, ac ardaloedd sydd wedi’u hymyleiddio yn arbennig.

Join us for a conversation with Marina Barham, General Director of Al Harah Theater in Bethlehem Palestine.

Share