Art

Adham Faramawy: In the simmering air and the flows of the undercurrent

Free

Nodweddion

29 Mawrth - 23 Mehefin 2024

Ar gyfer eu harddangosfa unigol yn Chapter, mae’r artist Adham Faramawy yn creu cyfres newydd o osodweithiau sydd, am y tro cyntaf, yn dod â gwaith fideo, paentio a cherflunwaith newydd ynghyd. Gan archwilio clymau cysylltiedig y tir, afonydd, a llifoedd mudol drwy hanesion personol, myth a fflora, mae eu gwaith yn canolbwyntio ar y perthnasau cynnil a chymhleth rhwng cyrff ymylol a lle.

Mae Adham Faramawy yn artist o dras Eifftaidd sy’n byw yn Llundain. Mae eu gwaith yn cyfuno cyfryngau gan gynnwys delwedd symudol, gosodwaith cerfluniol, ffotograffiaeth, print a phaentio, gan ymgysylltu â materion fel defnyddioldeb, cyffyrddiad, y corff a thocsigedd, i gwestiynu syniadau am natur mewn perthynas â chymunedau ymylol. Mae Faramawy wedi dangos gwaith yn Amgueddfa Guggenheim, Efrog Newydd; y Tate Modern a Tate Britain, Llundain, ac Oriel Serpentine, Llundain. Cyrhaeddon nhw’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Jarman Film London yn 2017 a 2021. Yn 2023, nhw oedd derbynnydd Gwobr Artist Frieze.

Delwedd: Dan Weill Photography

BWLCH GOLAU

Planhigyn yn y man anghywir yw chwyn

Tan 1 Medi

Mae dau ddawnsiwr mewn cae o chwyn tân i’w gweld yn fawr ar draws ein mynedfa yn y gwaith celf yma gan Adham Faramawy. Mae un dawnsiwr yn sefyll yn adlewyrchu coesynnau tal y planhigyn ac mae’r llall yn cyffwrdd â’i betalau pinc.

Mae chwyn tân, sy’n aml yn cael ei ystyried yn chwyn, yn blanhigyn sy’n hunan-hadu ac sydd â’r gallu eithriadol i dyfu ar dir llosg. Wrth osod cyrff wedi’u hymyleiddio yn y dirwedd yma ac yn trin y dirwedd gyda thestun sy’n darllen ‘Planhigyn yn y man anghywir yw chwyn’, mae Adham yn dad-sefydlogi’r syniadau o wreiddiau a’r ‘naturiol’. Pwy sy’n penderfynu pwy sy’n perthyn a phwy mae croeso iddynt?

I Adham, mae natur yn lle ar gyfer lloches a gwytnwch, yn ofod o orgyffwrdd a gwrthsafiad, lle mae planhigion yn ffynnu er gwaethaf dadleoliad ac mae chwyn yn gwrthsefyll amgylcheddau gelyniaethus.

Share