Workshops
ACTivate Your Life: Llesiant Byddar
Nodweddion
Dydd Sadwrn 5, 12, 19 a 26 Hydref, 11am-1pm
AM DDIM, a does dim angen archebu. Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu.
Cwrs seicoleg am ddim mewn Iaith Arwyddion Prydain yw ACTivate Your Life: Llesiant Byddar, sydd wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i ddeall eich hunan a’ch meddwl yn well a gwella eich iechyd meddwl a’ch llesiant.
Gall y cwrs eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth o’ch gweithredoedd fel bod bywyd bob dydd yn dod yn fwy boddhaus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ymdrin â syniadau a theimladau a allai fod yn achosi pryder i chi.
Mae’r cwrs wedi’i ddatblygu gan Dr Neil Frude ac yn cael ei gefnogi gan Iaith Arwyddion Prydain. Mae wedi’i greu i gynnig dulliau newydd i bobl Fyddar o ymdopi ag anawsterau bob dydd fel straen, pryder, insomnia a hwyliau isel.
Mae’r cwrs pedair sesiwn wedi’i ffilmio a bydd yn cael ei ddangos foreau Sadwrn.
___
Dydd Sadwrn 5 Hydref, First Space
ACT 1: Sut mae eich meddwl yn gweithio
Dysgwch am eich meddwl a sut gall weithio yn eich erbyn weithiau. Drwy gael gwell dealltwriaeth, gallwch gymryd rheolaeth a sianelu positifrwydd a llesiant.
___
Dydd Sadwrn 12 Hydref, First Space
ACT 2: Derbyn yr hyn na allwch chi ei newid
Rydyn ni’n aml yn canolbwyntio ar y pethau mewn bywyd na allwn ni eu newid, a weithiau gall hyn waethygu pethau i ni. Mae’r sesiwn yma’n egluro sut gall derbyn rhywbeth ein helpu ni i symud ymlaen.
___
Dydd Sadwrn 19 Hydref, Cinema Foyer
ACT 3: Meddwlgarwch
Gall meddwlgarwch ein helpu ni i ganolbwyntio mwy ar y presennol. Dysgwch sut i ymarfer y gelfyddyd o ‘sylwi ar y nawr’ fel nad ydych chi’n ymgolli mewn pryderon am y gorffennol neu’r dyfodol.
___
Dydd Sadwrn 26 Hydref, Cinema Foyer
ACT 4: Byw’n ddoeth, byw’n dda - eich gwerthoedd
Beth sy’n bwysig i chi? Bydd y sesiwn hon yn eich helpu chi i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi. Dysgwch sut gall gweithredu’n unol â’ch gwerthoedd fod y ffordd orau i chi gael bywyd gwell.

Hygyrch
Gwybodaeth am hygyrch ein hadeilad a'r cymorth hygyrch rydym yn ein cynnig ar gyfer ein rhaglen a lleoedd llogi.
More at Chapter
-
- Hosted at Chapter
Collograph Printmaking
I'r rhai sy'n hoff o wneud marciau, a'r awydd i arbrofi, colagraff yw'r cyfrwng printio i chi!
-
- Events
Repair Cafe 2025
Dewch draw i Chapter ar drydydd dydd Sadwrn pob mis lle byddwn ni’n cynnal Caffi Trwsio Cymru.
-
- Events
Summer Menu Tasting Evening
NB This is in the Cwtch (NOT Cinema Foyer)! Soft launch of the summer menu; invitation sent to Chapter Friends. Max 4 x tickets p/person with limited numbers (20)
-
- Events
Cwrdd â’r Tîm
Dewch i gwrdd â’r tîm Chapter yng Nghyntedd y Sinema rhwng 2-4pm