Art

Abi Palmer yn sgwrsio gyda Nathan Smith

  • 1h 30m

£5

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m
  • Math Contemporary Visual Arts

Nodwch fydd yr oriel ar gau o 4yp ar 3 Hydref am yr digwyddiad yma.

Ymunwch ag Abi Palmer mewn sgwrs gyda’r mycolegydd Nathan Smith i ddathlu cyhoeddiad newydd gan Abi, Slugs: A Manifesto, a gyhoeddwyd gan Makina Books. Byddan nhw’n trafod gwlithod, ffyngau a llysnafedd – a sut mae creu llenyddiaeth drwy’r creaduriaid anarferol yma’n gallu newid y byd...

___

Artist ac awdur yw Abi Palmer. Mae’n defnyddio ffilm, testun, cerflunwaith, ac ymyrraeth synhwyraidd i archwilio cyrff sâl, gweadau gludiog a thirweddau ecolegol.

Mae ei gwaith yn cynnwys y gyfres ffilm Abi Palmer Invents the Weather (Artangel, 2023); y llyfr Sanatorium (Penned in the Margins, 2020); ac arcêd gamblo ryngweithiol Crip Casino (a arddangoswyd yn y Tate Modern, Somerset House, Wellcome Collection a Collective Edinburgh).

Dewiswyd ei cherfluniau o wlithod yn paru ar gyfer y Frieze Corridor Commission (2023). Mae’n un o artistiaid New Contemporaries Bloomberg (2023); ac yn dderbynnydd Awards for Artists Sefydliad Hamlyn (2021) a gwobr Thinking Time Artangel (2020). Cyrhaeddodd Sanatorium y rhestr fer ar gyfer Gwobr Barbellion.

Mae Dr Nathan Smith, FLS yn Uwch Guradur Mycoleg, Mwsoleg a Chenneg yn Amgueddfa Cymru. Mae ei ymchwil yn edrych ar sut mae ein dealltwriaeth o ffyngau ac organebau tebyg i ffyngau wedi newid dros amser, a sut mae hyn wedi siapio – a chael ei siapio – gan y rhai sy’n eu hastudio a chymdeithas. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y croestoriad rhwng celf a gwyddoniaeth, ac mae wedi gweithio gydag Abi’n flaenorol ar weithdy barddoniaeth o’r enw: Exploring the Fungarium: Poetry, Form and Fungus.

___

Gwybodaeth hygyrchedd

Bydd y digwyddiad yma’n digwydd yn yr oriel, sydd ar y llawr gwaelod.

Bydd seddi yn y digwyddiad.

Mae gan Chapter fynediad gwastad a lifftiau drwy’r adeilad. Mae toiledau â mynediad addas i gadair olwyn ar bob llawr.

Mae gan yr arddangosfa seddi ym mhob ystafell.

Os oes gennych chi annwyd, ffliw neu symptomau covid, gofynnwn i chi beidio dod er mwyn amddiffyn y mynychwyr a’r siaradwr sydd ag imiwnedd gwan.

Nid yw gwisgo masg yn orfodol, ond mae croeso mawr i chi wneud.

Cysylltwch ag enquiries@chapter.org os oes gennych gwestiynau hygyrchedd ychwanegol.


Mynediad ar-lein
Bydd y sgwrs yn cael ei ffilmio ac ar gael i’w gwylio ar-lein am ddim yn fuan ar ôl y digwyddiad. Bydd capsiynau ar y fideo.

Share

Times & Tickets

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy