Performance

A Year of Deep Listening: Performance and Book Launch

  • 1h 0m

£5 - £15

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

19:00 – Cyflwyniad

19:15 – Perfformiad gan Dan Johnson, Annie Gardiner a Liz Excell

20:00 – Lansiad llyfr a derbyniad diodydd

_____

Ymunwch â ni mewn penwythnos o weithgarwch wedi’i guradu gan yr artist preswyl a’r hwylusydd Gwrando Dwfn, Dan Johnson, i ddathlu cyhoeddi A Year of Deep Listening.

Dechreuodd A Year of Deep Listening fel dathliad ar-lein 365 diwrnod o waddol y gyfansoddwraig arloesol Pauline Oliveros, a’r hyn fyddai wedi bod yn ben-blwydd arni’n 90 oed. Cyhoeddodd y Ganolfan ar gyfer Gwrando Dwfn yn Rensselaer un sgôr testun bob dydd — ar-lein ac ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol — am 365 o ddiwrnodau. Yn fynegiant gan y gymuned Gwrando Dwfn, crëwyd y sgorau gan dros 300 o artistiaid — yn amrywio o gyfansoddwyr clodwiw i weithwyr siop fwyd clustfain; ac o bobl fu’n gweithio’n agos gyda Pauline Oliveros am ddegawdau i’r rhai na chawson nhw gwrdd â hi.

Wedi’u cyhoeddi gan Terra Nova a’u dosbarthu gan MIT Press, mae’r sgorau yma nawr yn dod at ei gilydd mewn cyfrol hyfryd a hanesyddol, A Year of Deep Listening.

“Y mwyaf dw i’n gwrando, y mwyaf dw i’n dysgu gwrando. Mae Gwrando Dwfn yn archwilio’r perthnasau ymhlith unrhyw sŵn a phob sŵn, boed yn naturiol neu’n dechnolegol, yn fwriadol neu’n anfwriadol, yn real, yn y cof, neu’n ddychmygol. Mae meddwl hefyd wedi’i gynnwys. Mae arfer Gwrando Dwfn yn cynnwys gwrando, seinio, a darnau symudiad... ac mae’r canlyniadau’n cael eu prosesu gan drafodaeth grŵp, myfyrdodau personol, neu’r ddau. Mae Gwrando Dwfn ar gyfer cerddorion yn ogystal â chyfranogwyr o ddisgyblaethau a diddordebau eraill. Nid oes angen hyfforddiant cerddorol blaenorol.” – Pauline Oliveros

Cyfansoddwr, perfformiwr a dyngarwr oedd Pauline Oliveros (1932-2016), ac roedd hi’n arloeswr pwysig i gerddoriaeth America. Gydag enw da yn rhyngwladol, bu’n archwilio tir newydd o ran ffurfio sain dros chwe degawd iddi hi ei hunan ac i eraill. Drwy waith byrfyfyr, cerddoriaeth electronig, defod, addysgu a myfyrdod, creodd gorff o waith sydd â’r fath ystod o weledigaeth fel ei fod yn effeithio’n ddwfn ar y rhai sy’n ei brofi, a’i fod y tu hwnt i lawer sy’n ceisio ysgrifennu amdano. Cafodd Oliveros ei hanrhydeddu gyda llawer o wobrau, gan gynnwys pedair doethuriaeth er anrhydedd, grantiau, a chyngherddau rhyngwladol.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Mae Dan Johnson yn offerynnwr taro, yn artist perfformio, yn addysgwr ac yn hwylusydd gwrando dwfn sy’n byw rhwng Bryste a Chaerdydd. Mae’n adnabyddus am wthio ffiniau offerynnau taro drwy gelf perfformio hirbarhaus sy’n ymgorffori sain a symudiad. Gwnaeth breswylfa yn Sefydliad Marina Abramovic yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar, a bu’n astudio gyda’r Ganolfan Gwrando Dwfn, Efrog Newydd yn 2022. Mae ymagwedd Dan yn gwbl hyblyg ac yn canolbwyntio ar archwiliad ystyrlon. Mae cynulleidfaoedd wedi disgrifio ei berfformiadau fel bregus, hael, hirbarhaus a rhydd.

Artist, cyfansoddwr a chynhyrchydd yw Annie Gardiner. Mae ganddi brosiectau cerddorol o dan ei henw hi, Excellent Birds, MARCY a’r ddeuawd roc-sŵn Hysterical Injury. Mae’n gweithio fel cynhyrchydd gydag ystod amrywiol o artistiaid o stiwdios chwedlonol J&J a Joe’s Garage ym Mryste. anniegardiner.co.uk/about

Dechreuodd Liz Excell ei thaith gerddorol yn ifanc, gan ddysgu’r piano, côr, drymiau ac offerynnau taro wedi’u tiwnio. Wrth astudio jazz yn Trinity Laban, daeth o dan ddylanwad cerddoriaeth Ellington, Coltrane, Mingus, a byrfyfyr rhydd. Bu’n chwarae yn y London SoundPainting Orchestra a sefydlodd yr Old Hat Jazz Band. Ar ôl graddio, teithiodd Liz gydag Old Hat a’r band llwyddiannus Nerija, gan berfformio ledled gwledydd Prydain, Ewrop a’r UDA, yn ogystal ag ar deledu a Radio’r BBC. Creodd Jazz Herstory hefyd, sef dangosiad misol ar gyfer blaenwyr bandiau benywaidd.

Yn 2019, symudodd Liz i Gaerdydd i weithio yn y Coleg Cerdd a Drama, ar ôl perfformiad ar daith Laura Jurd. Yn 2021, sefydlodd Sallix, prosiect wedi’i gefnogi gan y Gronfa Creu Cerddoriaeth i Fenywod PRsF, sy’n archwilio cod Morse ar gyfer greu fframweithiau rhythmig ar gyfer byrfyfyrio. Mae Liz hefyd yn hyfforddi i fod yn therapydd cerdd ym Mhrifysgol De Cymru.

Share

Times & Tickets