Performance
Dyad Productions: A Christmas Carol
- 1h 15m
Nodweddion
- Hyd 1h 15m
Mae’r cwmni clodwiw Dyad Productions, (A Room of One’s Own, I, Elizabeth, Austen’s Women, Female Gothic) wedi bod yn teithio gyda’u sioe Nadolig boblogaidd Christmas Gothic ers 2015, ac maen nhw nawr yn cynnig eu hud i stori ysbryd glasurol a bythol-berthnasol Dickens.
Mae’n Noswyl Nadolig, ac mae’r cybydd chwerw Ebenezer Scrooge ar fin cael noson ysbrydaidd a fydd yn aros gydag e am byth. Mae stori Nadoligaidd anfarwol Dickens am achubiaeth a thrugaredd yn dod yn fyw yn arddull unigol dihafal Dyad.
Dewch yn nes am noson o uchelwydd a llawenydd yng nghwmni Marley, Fezziwig, a Cratchit a’r criw, i ddarganfod gwir ystyr y Nadolig: tynerwch am y gorffennol, dewrder am y presennol, a gobaith am y dyfodol.
Mae Ebenezer yn byw ynddon ni i gyd, ac mae’r stori ogoneddus yma’n ein hatgoffa i beidio ag ildio i’r Scrooge oddi mewn i ni.
Gydag ysbrydoliaeth gan berfformiadau gwreiddiol Dickens o’i waith ei hunan, a gan ddefnyddio adroddwr gwych y nofel i ddod â’r stori’n fyw, caiff y darn ei berfformio gan Andrew Margerison (Fatherland gan Frantic Assembly, Macbeth), a’i gyfarwyddo gan Rebecca Vaughan.
Canmoliaeth i Dyad Productions:
‘Os nad ydych chi wedi gweld gwaith Dyad Productions o’r blaen, mae’n rhaid i chi fynd’ British Theatre Guide
Enillwyr Gwobr Corff o Waith Cronnus THREE WEEKS, 2018
★★★★★ ‘Wedi’i haddasu’n ddeallus, a’i pherfformio’n hyfryd... hudolus’ (British Theatre Guide)
★★★★★ ‘Ail-ddychmygiad cyfoethog; cywrain a hiraethus' (Edinburgh Guide)
★★★★★ ‘Perfformiad aruthrol…hyderus…cyfoethog' (The Scotsman)
★★★★★ ‘Eithriadol… gafaelgar… dim llai na magnetig’ (Three Weeks)