Film

20,000 Species of Bees (15)

  • 2h 8m

Nodweddion

  • Hyd 2h 8m

Sbaen | Estibaliz Urresola Solaguren | Sofia Otero, Patricia López Arnaiz

Dyma’r ffilm nodwedd gyntaf i Estibaliz Urresola ei chyfarwyddo, ac mae’r ffilm gain 20,000 Species of Bees – y bu i’w seren ifanc Sofía Otero ennill Silver Bear am y Prif Perfformiad Gorau am ei rhan ynddi yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin yn 2022 – yn ddrama dyner a theimladwy am wyliau haf bythgofiadwy o hunan-ddarganfod plentyn wyth oed.

Mae Otero yn chwarae merch draws, sy’n gwrthod yr enw Aitor a roddwyd iddi, ac sydd wedi’i drysu gan y ddeuoliaeth ryweddol sy’n rheoli ei byd, lle caiff bechgyn a merched eu gwahanu amser chwarae, a lle mae ei theulu’n dweud y drefn wrthi am ei gwallt hir. Yn enaid chwilfrydig sydd ag awch am wybodaeth, mae wrth ei bodd yn dysgu geiriau a sgiliau newydd, ac mae’n cwestiynu pam nad yw’n teimlo’n sicr pwy ydy hi, pan mae ei brawd a’i chwaer hŷn yn ei chael hi mor hawdd. Mae Ane (Patricia López Arnaiz), ei mam, yn mynd â’r plant yn ôl i’w thref enedigol yng Ngwlad y Basg am yr haf, lle mae Cocó yn treulio oriau gyda’i hen fodryb, gwenynwr y pentref, gan ei gwylio’n gweithio a gofyn iddi ddiffinio geiriau anghyfarwydd. Dyma lle mae Cocó yn teimlo fwyaf rhydd i gael bod yn hi ei hunan. Er mai bwriadau da sydd gan Ane, mae ei thrafferthion ei hunan yn mynd â’i sylw, ac mae’n profi argyfwng hunaniaeth ei hunan.

Mae 20,000 Species of Bees yn dwyn i gof Tomboy gan Céline Sciamma gyda’i realaeth ystyriol, ac yn cynnig safbwynt plentyn o dyfu i fyny, gan edrych yn fanwl ar anawsterau’r prif gymeriad mewn ffordd ddynol a graslon.

Share