Gŵyl Ffilmiau SAFAR 2024: Breuddwydion, Gobeithion a Gwirionedd

20-23 Mehefin

Sut gall bod yn dyst i realiti ein galluogi ni i’w herio? Ydyn ni’n cael gobeithio tu hwnt iddo? Ac allwn ni gyflawni ein breuddwydion yn unigol, neu oes angen i ni freuddwydio gyda’n gilydd, ar y cyd, i sicrhau eu bod nhw’n cael eu gwireddu?" - Rabih El-Khoury, curadur yr ŵyl

Gŵyl Ffilmiau SAFAR yw’r ŵyl fwyaf ym Mhrydain sy’n ymroddedig i waith sinema o’r byd Arabaidd. Cafodd SAFAR ei sefydlu yn 2012, ac mae’n arddangos y sbectrwm eang o ffilmiau o’r rhanbarth drwy weithio gyda churaduron ar raglenni thematig a gwahodd gwneuthurwyr ffilm i sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau.

Yn 2024, mae’r ŵyl yn dod â thros 50 o ffilmiau o 15 o wledydd at ei gilydd, gan gynnwys ffilmiau newydd, clasuron, dangosiadau i’r teulu, ffilmiau o’r archif, digwyddiadau arbennig a mwy. Nod thema eleni yw pwysleisio llu o wirioneddau beunyddiol sy’n cael eu hwynebu ledled y byd Arabaidd, a myfyrio ar sut gall gobeithion bach a breuddwydion mawr gyd-fodoli mewn cyd-destunau o’r fath.

Hon fydd y nawfed ŵyl, a bydd hi’n digwydd rhwng 18 a 30 Mehefin 2024 gyda dangosiadau yn Llundain, Birmingham, Caerdydd, Glasgow, Hull, Lerpwl, Manceinion, Rhydychen a Plymouth.

Cefnogir SAFAR gan y BFI, sy’n dyrannu cyllid gan y Loteri Genedlaethol, y British Council, Sefydliad Bagri a Sefydliad Celf Barjeel.

Digwyddiadau

Filter events by date

Seasons

Accessibility

Sorry, there are no available events