Hwyl i’r teulu yn Chapter!

Yr haf yma mae ganddon ni wledd o weithgareddau anhygoel i gadw’r rhai bach yn brysur. O becynnau cinio am ddim, perfformiadau ac arddangosfeydd, i ffilmiau a gweithdai, cymerwch olwg ar y rhaglen fywiog i blant o bob oed allu ei mwynhau gyda’i gilydd!

Rydyn ni’n parhau gyda’n bwyd am ddim i bobl ifanc 18 oed neu iau. Os ydych chi mewn angen yn y cyfnod ariannol heriol yma, galwch heibio i’r caffi lle bydd ein tîm yn gweini pecyn cinio o fwyd blasus rhwng 11.30am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Byddwn ni’n dangos ffilmiau i’r teulu am bris isel neu am ddim, gan gynnwys Despicable Me 4 a The Garfield Movie. Yn wahanol i’n darpariaeth arferol, £3 yr un fydd pris tocyn (pris arferol tocyn yw £7/£9). Byddwn ni’n cynnig tocynnau am ddim ar gyfer hanner y seddi drwy ein gwaith gyda sefydliadau ac elusennau lleol, er mwyn cyrraedd pobl sy’n wynebu rhwystrau mynediad oherwydd caledi economaidd. Os byddwch chi wedi methu allan ar docyn, rydyn ni’n argymell dod i Chapter gan y bydd unrhyw docynnau sydd heb eu casglu yn cael eu rhyddhau 10 munud cyn i’r ffilm ddechrau.

Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen i gyflwyno arddangosfa newydd Abi Palmer lle bydd disgo gwlithod llysnafeddog! Gallwch hefyd fwynhau ein taflenni lliwio newydd gan yr hyfryd Flossy & Boo.

Cefnogi Chapter

Mae rhoddi yn ffordd syml, ddiogel, ac efiol i gefnogi ein gwaith sy'n elwa miloedd o bobl bob blwyddyn.feith

£
Arhoswch...
Something went wrong

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy