- Ffilm
Hijinx Gŵyl Ffilmiau Undod 2024
Mae Gŵyl Ffilmiau Undod yn cyflwyno detholiad cyffrous, amrywiol o ffilmiau hir a byr wedi eu creu gan a gyda phobl greadigol ac actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, ochr yn ochr â sesiynau cwestiwn ac ateb a thrafodaethau panel. Dyma’r ail waith i’r ŵyl gael ei chynnal, sy’n chwaer ddigwyddiad i ŵyl gelfyddydau anabl ryngwladol Hijinx, Gŵyl Undod.