Haf o Sinema Araf: Will Heaven Fall Upon Us?

Yr haf yma, mae ganddon ni ffilmiau saethiadau hir i gyd-fynd â’r diwrnodau hir, wrth i ni gysgodi yn y sinema rhag y glaw mân a’r haul mwll gyda chlasuron myfyriol a ffilmiau newydd o’r mudiad Sinema Araf.

Byddwn ni’n dechrau gyda About Dry Grasses, ffilm newydd gan y gwneuthurwr ffilm o Dwrci Nuri Bilge Ceylan, y mae ei ffilmiau wedi bod yn ganolog i’r mudiad yma. Byddwn ni hefyd yn dod â ffilmiau hŷn yn ôl i’r sgrin fel Twilight gan György Fehér, a hefyd dathliad o’r meistr ffilm o Hwngari, Béla Tarr. Gyda’i sinematograffi du a gwyn tywyll a’i rythm a’i densiwn hypnotig, mae’r chwedlau dystopaidd yma am gyfundrefnau llwgr yn gwrthod cael eu cyfyngu i un cyfnod hanesyddol, ond maen nhw’n adleisio’n huawdl yn ein cyfnod ni.