Deaf Gathering 2024

Gŵyl i bawb dan arweiniad pobl fyddar dros bedwar diwrnod yw Deaf Gathering. Mae’r digwyddiad, lle bydd pobl Fyddar* yn cymryd yr awenau, yn cynnwys ffilmiau, perfformiadau, digwyddiadau cymdeithasol, gweithdai, comedi, sgyrsiau a llawer mwy. Mae’n lle i bobl Fyddar, trwm eu clyw ac sy’n clywed ddod at ei gilydd a phrofi’r gorau o ddiwylliant Byddar.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i Deaf Gathering 2024!

Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim, ond bydd angen i chi archebu tocyn ar gyfer pob un yr hoffech fynd iddo. Bydd angen talu am docyn ar gyfer rhai digwyddiadau mwy.

Mae cefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg llafar ym mhob un o’n digwyddiadau, a bydd capsiynau byw mewn rhai ohonyn nhw. Mae gwybodaeth am hygyrchedd ar ein gwefan pan fyddwch chi’n clicio ar ddigwyddiad. Bydd y dehonglwyr hefyd ar gael yn ein caffi bar a’r ardaloedd cymdeithasol drwy gydol yr ŵyl.

*Rydyn ni’n defnyddio’r gair ‘Byddar’ fel term cyffredinol i gynnwys pob math o fyddardod a cholled clyw.


Credyd llun: Mareah Ali