Slime Mother

Pam bod yn wlithen? Ar draws arddangosfa, digwyddiadau a rhaglen sinema’r artist Abi Palmer, rydych chi’n cael eich gwahodd i brofi byd o gwiardeb amryliw a ffyrdd mwy-na-dynol o fod a fydd yn eich gadael yn teimlo ychydig yn fwy gwlithenaidd.

Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.

Digwyddiadau

Filter events by date

Sorry, there are no available events

Amandom Oriel Chapter

Gyda bydolwg rhyngwladol a’n gwreiddiau yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid lleol a byd-eang. O gyflwyniadau unigol ac arddangosfeydd grŵp, i breswylfeydd ac ymyriadau artistiaid, rydyn ni’n cydweithio gydag artistiaid ar bob cam o’u gyrfa, gan eu cefnogi i wireddu syniadau mentrus a ffyrdd newydd o weithio.


Mae’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn mynd ati i ystyried materion a chwestiynau hanfodol sy’n siapio ein presennol, ac rydyn ni’n meithrin deialog rhwng cynulleidfaoedd, artistiaid a’u harfer drwy raglen gyhoeddus sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu, (dad)ddysgu a myfyrio ar ein hanes, y ffordd rydyn ni’n byw nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol newydd.

Amseroedd Agor Oriel Chapter: Dydd Mawrth-Dydd Sul, 11yb-5yp

Learn More