
- Film
Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025 Pass Penwythnos
Weekend Festival Pass for Cardiff Animation Weekender 2025
17-18 Mai 2025
CROESO i Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025! Allwn ni ddim aros i rannu’r rhaglen fywiog a hybrid yma o animeiddiadau hiraethus, trysorau prin, clasuron cwlt, a pherlau newydd sbon a fydd yn aros gyda chi am byth.
Dim ots a gawsoch chi’ch magu yn gwylio dangosiadau i blant fore Sadwrn, tapiau VHS aneglur o’r siop gornel, neu gartŵns fflach rhyfedd ar-lein, ymunwch â ni mewn cyfle prin i weld aur y byd animeiddio ar y sgrin fawr, ac i ddarganfod eich ffefrynnau newydd.
Rydyn ni am i Benwythnos Animeiddio Caerdydd fod yn lle croesawgar a chynhwysol i bawb. Os nad ydych chi’n nabod neb arall sy’n dod, mae ein tîm a’n gwirfoddolwyr cyfeillgar bob amser yn barod am sgwrs!
Mae isdeitlau ar ein holl ddangosiadau, ac mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer pob sgwrs a sesiwn holi ac ateb.
Wedi methu rhywbeth roeddech chi’n gobeithio ei weld? Dim problem. Rhwng 17 Mai a 1 Mehefin, gallwch wylio ffilmiau byrion yr ŵyl a digwyddiadau wedi’u recordio o adre.
Dewch i fwynhau ffilmiau, ymuno yn y sgyrsiau, cymryd amser i ailgysylltu, cwrdd â ffrindiau newydd, creu, a chael hwyl ym Mhenwythnos Animeiddio Caerdydd. Gobeithio y bydd yn sbarduno cysylltiadau, yn tanio llawenydd, yn ysbrydoli eich creadigrwydd, ac yn eich lapio ym mlanced glyd a hiraethus yr ŵyl.
Cariad mawr,
Tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Treuliwch amser yng nghyntedd y sinema rhwng digwyddiadau, i fachu paned, cwrdd â chyd-fynychwyr, ac, os ydych chi’n teimlo’n greadigol, creu comic gyda Dotty, masgot yr ŵyl, neu ychwanegu at lyfr troi o animeiddio! Mae croeso i bob lefel a gallu artistig!
Animeiddwyr o Gymru yn edrych ’nôl ar eu hysbrydoliaeth animeiddio.
Darganfyddwch drysorau cynhanesyddol mewn gweithdy cyflwyno animeiddio stop-symud.
Mae deinosor amddifad a’i ffrindiau newydd yn wynebu taith beryglus i ddyffryn prydferth.
Mae dangosiad animeiddiadau Oska Bright ’nôl ac yn well nag erioed!
Ymgollwch yn y stori ddod-i-oed freuddwydiol a swrealaidd animeiddiedig yma.
Cyfle i animeiddwyr niwroamrywiol gwrdd – soniwch wrthon ni am eich gwaith, beth hoffech ei ddweud, a’r rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu wrth gael eich gwaith allan yna.
Dathlwch chwarter canrif o Courage the Cowardly Dog gyda’r crëwr John R. Dilworth!
Witness an epic cartoon memory showdown live on stage!
Cyfle i weld detholiad o ffilmiau byrion animeiddiedig a wnaed mewn 48 awr!
Dysgwch grefft unigryw creu modelau gydag Aardman.
Cyfle i ail-weld y glasur ffantasi animeiddiedig gwlt, gyda dangosiad prin ar y sgrin fawr!
Dangosiad arbennig o Ghost Cat Anzu mewn cydweithrediad â Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu.
Feathers McGraw is back! See the first part of our ‘Feathers double bill’!
Mae Feathers McGraw ’nôl! Gwyliwch ail ran ‘Bil Dwbwl Feathers’!
Chris Shepherd fydd yn trafod ei nofel graffig gyntaf hiraethus.