
Rydyn ni’n cydweithio gyda’n cymdogion West Pizza
- Published:
Mae pizzas arddull Efrog Newydd West Pizza eisoes yn ffefryn amlwg yn Nhreganna, a nawr gallwch gael gafael ar un yn ein caffi bar bob nos Sul 5 – 9pm, a nos Fawrth a nos Fercher 6 – 9pm.
Drwy weithio gyda’r busnes lleol gwych yma, rydyn ni’n falch iawn o gynnig opsiwn bwyd blasus newydd i chi pan fydd y gegin ar gau.
Archebwch o’ch bwrdd gan ddilyn y canllaw cam wrth gam a bydd eich pizza’n cael ei gludo atoch gan eu tîm hyfryd.
Sut i archebu:
- Ewch i west.pizza
- Dewiswch eich pizza(s), ychwanegion a thameidiau
- Cliciwch ‘Dewis lleoliad casglu’ a nodwch Chapter
- Ychwanegwch eich pizza(s) i’ch basged
- Cliciwch ‘Parhau i dalu’
- Ar y cam talu, nodwch rif eich bwrdd yn yr adran ‘Nodiadau i’r gwerthwr’
- Gosodwch eich archeb
- Eisteddwch ac arhoswch i’ch pizza gyrraedd cyn gynted â phosib!
*Ar gael nos Sul 5-9pm a nos Fawrth a nos Fercher 6-9pm.