Uchafbwyntiau mis Ionawr
- Published:
Blwyddyn newydd dda!
Dathlwch yr Hen Galan gyda ni nos Sadwrn 12 Ionawr! Mae perfformiad Making Merrie yn addas i’r teulu ac yn archwilio diwylliant materol theatr werin, gyda cherddoriaeth gan y South Wales Improvisers.
I ddathlu wythnosau olaf Crashing the Glass Slippers yn yr oriel, ymunwch â ni ar gyfer un o’r ffilmiau i’r teulu yn y gyfres sinema ysbrydoledig. Rydyn ni’n dangos y stori dylwyth teg gerddorol Enchanted a’r eiconig 101 Dalmatians a Cruella.
Mae ein Jams Jazz Neo-Eneidiol misol newydd sbon yn dechrau 26 Ionawr. Mwynhewch eich nosweithiau Sul gyda cherddoriaeth, cysylltiad, a chydweithio.
Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd ’nôl, yn cyflwyno A Memoir of a Snail, stori deimladwy a thwymgalon am fywyd rhywun ar yr ymylon yn canfod y daioni yn annibendod bywyd beunyddiol.